Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweinidog yn agor campws cyntaf Academi Iechyd a Gofal Powys

Health and Social Services Minister Eluned Morgan at the opening of Powys Health and Care Academy's Bronllys campus

13 Hydref 2022

Health and Social Services Minister Eluned Morgan at the opening of Powys Health and Care Academy's Bronllys campus
Heddiw (dydd Iau 13 Hydref), agorwyd campws cyntaf Academi Iechyd a Gofal Powys, yn Ysbyty Cymunedol Bronllys yn swyddogol gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y cyfleuster newydd gwerth £1.6 miliwn yn gymorth i wella mynediad at hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol yn y sir gan annog mwy o bobl i gael gyrfa yn y sector.

Mae Campws Bronllys yn cynnwys canolfan hyfforddi yn Neuadd Basil Webb ar ei newydd wedd, gofod dysgu awyr agored newydd, a gofod byw wedi'i addasu yn y byngalo Magpies.  Mae'r byngalo wedi cael ei ailwampio gyda'r nod o'i ddefnyddio i ddarparu dysgu wedi'i efelychu mewn lleoliad cymunedol.  Megis dechrau mae'r cynlluniau ar gyfer academi fodern ledled y sir, gyda safleoedd llai i'w datblygu dros y pum mlynedd nesaf.

Cafodd y gwaith ei gwblhau gyda chymorth £1.1 miliwn mewn grantiau cyfalaf gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru (ICF) a £500,000 o gyllid pellach a ddarparwyd gan aelodau o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.

Meddai Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Roeddwn yn falch o weld y gwaith arloesol sy'n digwydd ym Mhowys i wella sgiliau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol y sir, diolch i'n cymorth drwy'r gronfa gofal integredig.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y dysgwyr y gwrddais â nhw heddiw yn datblygu yn eu gyrfaoedd o ofalu am bobl pan fydd eu hangen mwyaf gan wneud hynny gydag ymroddiad mawr am flynyddoedd lawer i ddod.

"Sefydlwyd y byrddau partneriaethau rhanbarthol i sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn cydweithio i wella iechyd a lles, ac mae'n braf gweld hyn yn gweithio'n dda ym Mhowys."

Yn ystod ei hymweliad, gwelodd y Gweinidog ei hun peth o'r gwaith sy'n cael ei wneud i helpu i baratoi'r genhedlaeth nesaf o weithlu iechyd a gofal cymdeithasol y sir - dysgwyr ôl-16 o ysgolion uwchradd Powys - i chwarae rôl allweddol yn y sector. Cafodd y cyfle hefyd i gwrdd â rhai o ofalwyr di-dâl yr ardal sy'n elwa o dechnegau dysgu i wella eu hiechyd meddwl a'u lles.

Sefydlwyd Academi Iechyd a Gofal Powys gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys (RPB) sy'n cynnwys ystod o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), sy'n cydweithio i wella iechyd a lles preswylwyr y sir.

Dywedodd Carl Cooper Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys a Phrif Weithredwr PAVO: "Roeddem wrth ein boddau yn croesawu'r Gweinidog i'n campws newydd heddiw, gan ei fod yn rhoi cyfle i ni ddangos peth o'r hyfforddiant gwych sydd eisoes yn digwydd a diolch iddi am gymorth Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn.

"Ein huchelgais yw bod yr academi yn cefnogi'r sector iechyd a gofal cymdeithasol i gyrraedd y brig ac i fod y dewis cyntaf i'r rhai sy'n dechrau neu'n dychwelyd i gyflogaeth yn y sir, ac i ddod yn ddarparwr rhagorol o addysg broffesiynol a chlinigol wledig drwy ddysgu efelychu wyneb yn wyneb a gwersi rhithwir.

"Bydd yr academi hefyd yn cefnogi datblygiad ein harweinwyr a'r gweithlu, gan gynnwys gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl, i ddarparu modelau gofal arloesol ac o'r radd flaenaf i'n dinasyddion mewn ffordd amserol ac effeithiol. "

Y campws yn Ysbyty Cymunedol  Bronllys yw'r cyntaf o sawl safle y mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys yn bwriadu eu datblygu fel rhan o'i raglen Dyfodol y Gweithlu, gan gynnwys prif safle arall, neu safle hwb, ar Gampws Lles Gogledd Powys arfaethedig, yng nghanol y Drenewydd. Bydd technoleg ddigidol hefyd yn cael ei defnyddio i gysylltu sawl safle ac i alluogi dysgu o bell.

Cafodd y cyllid gan Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn 2020 a 2022.

Am fwy o wybodaeth am yr academi a'i phedair ysgol, ewch i wefan Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys: https://www.powysrpb.org/powyshealthandcareacademy