Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - Cwestiynau Cyffredin
Trosolwg
Mae'r rheolau ynghylch rhentu cartref yng Nghymru'n newid.
Bydd y ddeddf newydd mewn perthynas â Rhentu Cartrefi'n ei wneud yn symlach ac yn rhwyddach i rentu cartref, ac yn cynnig mwy o ddiogelwch i denantiaid ac i landlordiaid.
O 1af Rhagfyr 2022, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru'n rhentu eiddo allan.
Bydd y ddeddf newydd yn egluro'n well yr hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud a pheidio â'i wneud wrth fyw yn y cartref.
Yn y ddogfen hon, y landlord yw Cyngor Sir Powys.
Rydym wedi llunio'r ddogfen hon, sy'n hawdd ei darllen, gyda Chwestiynau Cyffredin a fydd efallai'n berthnasol i'r newidiadau hyn.
- A fydd y ddeddf newydd yn effeithio arnaf i?
- Pa newidiadau fydd yn digwydd?
- Beth yw Contract Meddiannaeth?
- A fydd unrhyw newidiadau eraill?
- A fydd hyn yn costio arian i mi neu'n effeithio ar fy rhent?
- Beth ddylwn ei wneud nesaf?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, croeso ichi ffonio'r Un Rhif Tai ar 01597 827464 neu e-bostio housing@powys.gov.uk
A fydd y ddeddf newydd yn effeithio arnaf i?
Bydd, bydd pob tenant cymdeithasol (Y Cyngor a Chymdeithasau Tai) yn gweld rhai newidiadau:
- o ran y ffordd y darperir contractau
- o ran y ffordd y gwneir gwaith cynnal a chadw ar eu cartrefi
- o ran y ffordd maen nhw'n cyfathrebu gyda'u landlordiaid
Bydd angen i'r landlord:
- gydymffurfio â'r ddeddf newydd
- gwneud y diweddariadau angenrheidiol i'w heiddo a'u gwaith papur
Pa newidiadau fydd yn digwydd?
- O dan y ddeddf newydd, byddwch yn cael eich galw'n Ddeiliad Contract (nid tenant).
- Byddwch yn derbyn Contract Meddiannaeth (yr enw blaenorol ar hwn oedd cytundeb tenantiaeth).
- Bydd y ddeddf newydd yn golygu ei fod yn haws rhentu, ac yn cynnig mwy o ddiogelwch.
Beth yw Contract Meddiannaeth?
Yr hen enw ar Gontract Meddiannaeth oedd cytundeb tenantiaeth.
Cytundeb Diogel fydd eich Contract Meddiannaeth, sy'n rhoi mwy o ddiogelwch a sicrwydd ichi. Fodd bynnag, os taw ymgeisydd digartref ydych mewn llety dros dro, bydd eich contract meddiannaeth yn gytundeb safonol.
Bydd y landlord yn rhoi eich Contract Meddiannaeth ichi.
Bydd y Contract yn egluro'r hyn y gallwch ei wneud a'r hyn nad ydych yn gallu ei wneud, a'r hyn mae'r landlord yn gallu ei wneud a'r hyn nad yw'n gallu ei wneud.
Bydd y Contract yn cynnwys:
- Enwau'r sawl sy'n rhentu, a chyfeiriad yr eiddo sy'n cael ei rentu.
- Hawliau a chyfrifoldebau, er enghraifft, pwy sy'n gyfrifol am drwsio pethau yn eich cartref.
- Agweddau dydd i ddydd, er enghraifft, hysbysu'r landlord os na fydd rhywun adref am gyfnod o 4 wythnos neu fwy.
- Gwybodaeth arall, er enghraifft, os ydych chi'n cael cadw anifeiliaid anwes ai peidio.
- Gallwn drefnu argraffu ac anfon y Contract atoch trwy'r post, neu gallwn ei ebostio atoch, yn dibynnu ar eich dewis chi.
- Dylech arwyddo'r contract os ydych chi'n hapus gyda'r cynnwys.
A fydd unrhyw newidiadau eraill?
Bydd, bydd rhai newidiadau pwysig eraill megis:
Sicrhau fod y cartref yn addas i rywun fyw ynddo
Sy'n golygu bod yn rhaid i Gyngor Sir Powys sicrhau fod eich cartref yn addas i rywun fyw ynddo trwy:
- Osod larymau mwg
- Gosod synwyryddion carbon monocsid
- Gofalu fod eich trydan yn ddiogel
Os bydd y Llys yn penderfynu nad yw'ch cartref yn addas ichi fyw ynddo, nid oes rhaid ichi dalu rhent yn ystod y cyfnod hwnnw.
Rhybudd i adael
Mae'n rhaid i Gyngor Sir Powys roi rhybudd ichi os ydym yn dymuno ichi adael yr eiddo.
Bydd y rhybudd yn un ysgrifenedig sy'n eich hysbysu am yr hyn y dylech ei wneud, ac erbyn pryd.
Nid yw'n bosibl gofyn ichi adael os ydych wedi cwyno fod eich cartref mewn cyflwr drwg.
Deiliaid Contract ar y Cyd
Gallwch ofyn i ychwanegu rhywun i'ch contract os ydych am fyw gyda'r unigolyn dan sylw.
Nid oes rhaid ichi gychwyn contract newydd i wneud hyn.
Trosglwyddo eich cartref i rywun arall (Ddim yn berthnasol i ymgeiswyr digartref)
Gallwch drosglwyddo eich cartref i bobl eraill, er mwyn iddyn nhw allu parhau i fyw ynddo.
Bellach, gallwch drosglwyddo eich cartref dwywaith - yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
A fydd hyn yn costio arian i mi neu'n effeithio ar fy rhent?
Na fydd; does dim effaith ar eich rhent, ac ni fydd yn golygu mwy o gost ichi.
Beth ddylwn ei wneud nesaf?
Rydym yn awyddus i sicrhau fod y cyfnod pontio'n mynd mor llyfn â phosibl i bawb. Fel tenant, mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r newidiadau o'ch safbwynt chi.
- Gwirio'r enw(au) ar eich llythyr i sicrhau ei bod yn gywir ar gyfer eich Contract Meddiannaeth newydd. Os nad ydynt yn gywir, dylech gysylltu â ni ar 01597 827464 neu drwy ebostio: housing@powys.gov.uk
- Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn newid i Gontract Meddiannaeth ar 1af Rhagfyr 2022.
- Mae gan Gyngor Sir Powys chwe mis o 1af Rhagfyr 2022, i anfon eich Contract Meddiannaeth newydd atoch.
- Byddwn yn postio eich Contract Meddiannaeth atoch.
- Ar ôl derbyn eich Contract Meddiannaeth, bydd angen ichi ei ddarllen, a sicrhau eich bod yn gyfarwydd gyda'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau.
- Rhaid i bob Deilydd Contract lenwi ac arwyddo'r ffurflen "Derbyn Contract", a fydd wedi'i gynnwys gyda'ch Contract.
- Mae'n rhaid ichi ddychwelyd y ffurflen ar ôl ei llofnodi at Gyngor Sir Powys yn yr amlen a ddarperir o fewn 14 diwrnod o dderbyn y Contract.
- Bydd tenantiaid newydd ar ôl 1af Rhagfyr 2022, yn llofnodi'r contract newydd yn y ffordd arferol, a byddant yn derbyn copi o fewn 14 diwrnod.