Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwaith i ddechrau ar lwybr Teithio Llesol Llandrindod i Hawy

Image of a cycle path sign

17 Hydref 2022

Image of a cycle path sign
Bydd gwaith ar y ddwy ran gyntaf o lwybr teithio llesol newydd yn Llandrindod yn dechrau'r wythnos nesaf (24 Hydref 2022).

Cafodd y llwybr rhwng Llandrindod a Hawy ei ddynodi a'i gytuno yn dilyn ymgynghoriadau blaenorol ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir ac mae wedi bod allan i ymgynghori ar-lein am y 12 mis diwethaf.  Bydd dwy ran gyntaf y llwybr newydd yn dechrau wrth gylchfan yr Auto Palace ac yn parhau hyd at ychydig ar ôl Ffordd Grosvenor, mae hyn yn bosibl gyda chyllid Llywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith ar y ddwy ran gyntaf tuag at Hawy, yn cynnwys ehangu a gwella arwynebau'r palmentydd i fod yn llwybr hygyrch a rennir, gwelliannau i gyffyrdd yn unol â rheolau newydd y ffordd fawr, gan sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei roi i gerddwyr a beicwyr, a mwy o ddiogelwch i holl ddefnyddwyr y ffordd fawr.

Wedi'i gomisiynu gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) ac wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd y gwaith ar y gwelliannau hyn yn dechrau ar 24 Hydref, 2022 ac mae disgwyl iddynt fod wedi'u cwblhau erbyn dechrau'r flwyddyn newydd.  Bydd goleuadau traffig yn cael eu defnyddio yn ystod y gwaith o uwchraddio'r llwybr. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i osgoi'r gwaith sydd eisoes yn digwydd yn yr Auto Palace a'r ardal gyfagos.  Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal yn ystod y gwaith.

Ar adegau, ni fydd hi'n bosibl defnyddio'r mannau parcio ar hyd Stryd y Deml.  Gofynnir i drigolion sy'n defnyddio'r mannau parcio hyn ar hyn o bryd i wneud cais am drwydded tymor byr i barcio yn y maes parcio sy'n eiddo i'r cyngor y tu ôl i'r Auto Palace.  Fodd bynnag, nid oes nifer fawr o leoedd ar gael a byddant ar gael i drigolion Stryd y Deml ar sail y cyntaf i'r felin. I wneud cais am drwydded tymor byr, bydd angen i breswylwyr anfon eu henw, cyfeiriad a manylion cofrestru eu cerbyd drwy e-bost i activetravelconsultations@powys.gov.uk   Bydd manylion pellach yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i'r cartrefi a fydd yn cael eu heffeithio.

"Yn dilyn ymgynghori a datblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, mae'n gyffrous gallu gweld ein cyfres nesaf o gynlluniau teithio llesol yn Llandrindod yn dwyn ffrwyth." Meddai'r Cynghorydd Jackie Carlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru yn genedl cerdded a beicio. Bydd y llwybrau hyn yn gwella diogelwch y ffyrdd i gerddwyr a beicwyr, yn enwedig i deuluoedd sy'n cerdded yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

"Rydym yn gwerthfawrogi y gall gwaith ffordd fod yn rhwystredig ar adegau, yn enwedig ar gefnffyrdd prysur, ond bydd creu'r llwybrau hygyrch a rennir hyn yn y pen draw yn annog mwy ohonom i wneud teithiau byrrach, fel teithio i'r gwaith, ein hysgol neu siopau lleol, drwy ddulliau actif corfforol, fel cerdded neu feicio a bydd yn golygu llai o geir ar y ffyrdd.

"Bydd y gwaith o ledaenu'r llwybrau yn creu rhwydwaith o lwybrau diogel o fewn y dref, gan ganiatáu i'r gymuned ddewis i gerdded neu feicio'n hyderus yn hytrach na defnyddio'r car, gan wella ein hiechyd a'n lles yn ogystal â lleihau ein hôl troed carbon a gwneud ein rhan i helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd."

Ar ôl ei gwblhau yn ei gyfanrwydd, bydd y llwybr yn gysylltiad teithio llesol pwysig rhwng Hawy a Llandrindod a bydd yn gam mawr arall tuag at gwblhau'r rhwydwaith teithio llesol lleol, gan alluogi teithiau yn y dref ac i mewn ac allan o aneddiadau anghysbell ar droed neu ar gefn beic.