Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Safleoedd Ymgeisiol

Agorodd Awdurdod Cynllunio Lleol Powys (ACLl) yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, am chwech wythnos o 1 Tachwedd tan 13 Rhagfyr 2022.

Galluogodd y broses i'r holl bartïon a oedd yn mynegi diddordeb i gyflwyno safleoedd datblygu posibl i'w cynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol Newydd Powys (CDLl Newydd). Bydd yr ACLl yn asesu'r Safleoedd Ymgeisiol i bennu a ydynt yn addas, ai peidio, i'w cynnwys yn y CDLl Newydd.

Canllawiau a Gwybodaeth ynglŷn â'r Broses Safleoedd Ymgeisiol

Dylai cyflwyniadau Safleoedd Ymgeisiol ystyried y canllawiau a gwybodaeth ganlynol:

  • Nodiadau Canllaw ar Safleoedd Ymgeisiol (PDF) [393KB] - sy'n rhoi arweiniad ar ateb pob cwestiwn ar y ffurflen ac ar y wybodaeth ychwanegol sydd angen ei chyflwyno i ategu'r cais.
  • Y Map Cyfyngiadau rhyngweithiol -i adnabod unrhyw gyfyngiadau polisi allweddol a safleoedd dynodedig.  Bydd angen i gynigwyr safleoedd gyfeirio at y Map Cyfyngiadau er mwyn ymateb i gwestiynau perthnasol ar y Ffurflen Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol.  Cofiwch NI ddylid dibynnu ar y data hwn at ddibenion cyfreithiol ac efallai na fydd yn cynnwys y gwybodaeth diweddaraf o'r newidiadau a wnaed i'r data cyfyngiadau yn y Sir.  Ni all y Cyngor dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad neu anghywirdeb a all godi'.
  • Methodoleg Asesu Safloedd Ymgeisiol (PDF) [594KB] - mae'n rhoi manylion y broses, meini prawf asesu a'r fethodoleg i'w defnyddio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i benderfynu ar addasrwydd Safleoedd Ymgeisiol i'w cynnwys fel Safleoedd wedi'u Dyrannu o fewn y CDLl Newydd.  Mae Atodiad 1 o'r ddogfen hon yn rhoi manylion y fframwaith i'w ddefnyddio ar gyfer asesu safleoedd fel rhan o'r broses Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig.
  • Canllawiau ar Asesu Safleoedd Ymgeisiol (PDF) [1MB] mae hwn yn rhoi manylion y broses a fydd yn cael ei defnyddio i asesu hyfywedd Safleoedd Ymgeisiol.  Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn disgwyl i gynigwyr safleoedd gyflwyno Asesiad Hyfywedd Safleoedd  Cychwynnol, gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Datblygu (DVM) a ddatblygwyd yn rhanbarthol, ynghyd â gwybodaeth hyfywedd atodol, yn ystod y cam Galwad am Safleoedd Ymgeisiol.  Dylid defnyddio'r Canllawiau hyn ochr yn ochr â'r Canllawiau Defnyddiwr sy'n cyd-fynd â'r model, a fideos 'sut i' sydd wedi'u paratoi i helpu gyda'r broses o gwblhau'r model. Gellir cael copi o'r model ar gyfer Safle Ymgeisiol penodol a'r Llawlyfr i Ddefnyddwyr drwy gysylltu â Thîm y CDLl ar ldp@powys.gov.uk gan roi manylion cyfieirad y safle a chynllun lleoliad.
  • Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol - wedi'i baratoi fel tystiolaeth i oleuo CDLl Newydd Powys.  Mae'n darparu arweiniad ar sut y dylid ystyried cymeriad tirlun fel rhan o'r cynigion datblygu.  Bydd angen i gynigwyr safleoedd gyfeirio at yr asesiad hwn wrth ymateb i Gwestiwn 44 ar y Ffurflen Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol.

Cefnogir CDLl Newydd Powys gan brosesau asesu penodol gyda'r nod o sicrhau bod y cynllun yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, llesiant a gofynion eraill yn gysylltiedig â chydraddoldeb, iechyd, y Gymraeg a'r amgylchedd.  Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi trosolwg o'r prif brosesau asesu a'u prif elfennau:

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr holl gyflwyniadau yn cael eu cyhoeddi ar Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn ystod y Cyfnod Strategaeth a Ffefrir (Mai/Mehefin 2023). Bydd llai o obaith gan safleoedd sy'n cael eu cynnig ar ôl y cyfnod Strategaeth a Ffefrir o gael eu hystyried yn addas i'w cynnwys yn y cynllun.  Hefyd, dylai cynigwyr safleoedd fod yn ymwybodol y gallai peidio â chyflwyno gwybodaeth ddigon manwl olygu na fydd safle yn cael ei dwyn ymlaen.