Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) - Safleoedd Ymgeisiol

Agorodd Awdurdod Cynllunio Lleol Powys (ACLl) yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, am chwech wythnos o 1 Tachwedd tan 13 Rhagfyr 2022.

Agorodd ffenestr cyflwyno safleoedd arall rhwng 19 Awst a 7 Hydref 2024 yn ystod yr ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir CDLl Newydd Powys (2022-2037) (a elwir hefyd yn Gynllun Cyn-adneuo).

Mae Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol ar hyn o bryd yn cofnodi'r holl safleoedd a gyflwynwyd i'w hystyried yn ystod Cais 2022 am Safleoedd a bydd y Gofrestr yn cael ei diweddaru i gynnwys y cynigion safle newydd a gyflwynwyd yn 2024.

I weld y Gofrestr Safleoedd Posibl ewch i Borth Ymgynghori'r CDLl ac agor yr Adran Dogfennau Hanesyddol.   Noder bod rhai safleoedd eisoes wedi'u "hidlo allan" o'r broses ddethol - dewiswch y tab o'r enw Hidlydd Safle Cychwynnol i weld y rhain.

Bydd amserlen i ddod o hyd i safleoedd newydd i'w hystyried (a gyflwynwyd 19 Awst i 7 Hydref 2024) yn cael ei chyhoeddi ar y Porth Ymgynghori maes o law.  Nid ydym yn derbyn sylwadau'r cyhoedd ar unrhyw un o'r Safleoedd Posibl ar hyn o bryd, ond bydd cyfleoedd cyfranogi perthnasol yn cael eu cynnig ar y safleoedd newydd maes o law.

Dim ond safleoedd datblygu posibl a gyflwynir i'r Cyngor i'w hystyried yw cyflwyniadau Safleoedd Posibl.  Nid oes sicrwydd y bydd safle'n cael ei ddyrannu i'w ddatblygu yn y CDLl Newydd. 

Canllawiau a Gwybodaeth ynglŷn â'r Broses Safleoedd Ymgeisiol

I'r canllawiau a'r wybodaeth ganlynol wedi'u cyhoeddi fel rhan o'r broses Safleoedd Ymgeisiol:

  • Nodiadau Canllaw ar Safleoedd Ymgeisiol (PDF, 465 KB) - sy'n rhoi arweiniad ar ateb pob cwestiwn ar y ffurflen ac ar y wybodaeth ychwanegol sydd angen ei chyflwyno i ategu'r cais.
  • Y Map Cyfyngiadau rhyngweithiol -i adnabod unrhyw gyfyngiadau polisi allweddol a safleoedd dynodedig.  Bydd angen i gynigwyr safleoedd gyfeirio at y Map Cyfyngiadau er mwyn ymateb i gwestiynau perthnasol ar y Ffurflen Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol.  Cofiwch NI ddylid dibynnu ar y data hwn at ddibenion cyfreithiol ac efallai na fydd yn cynnwys y gwybodaeth diweddaraf o'r newidiadau a wnaed i'r data cyfyngiadau yn y Sir.  Ni all y Cyngor dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad neu anghywirdeb a all godi'.
  • Methodoleg Asesu Safloedd Ymgeisiol (PDF, 594 KB) - mae'n rhoi manylion y broses, meini prawf asesu a'r fethodoleg i'w defnyddio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i benderfynu ar addasrwydd Safleoedd Ymgeisiol i'w cynnwys fel Safleoedd wedi'u Dyrannu o fewn y CDLl Newydd.  Mae Atodiad 1 o'r ddogfen hon yn rhoi manylion y fframwaith i'w ddefnyddio ar gyfer asesu safleoedd fel rhan o'r broses Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig.
  • Canllawiau ar Asesu Safleoedd Ymgeisiol (PDF, 409 KB) mae hwn yn rhoi manylion y broses a fydd yn cael ei defnyddio i asesu hyfywedd Safleoedd Ymgeisiol.  Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn disgwyl i gynigwyr safleoedd gyflwyno Asesiad Hyfywedd Safleoedd  Cychwynnol, gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Datblygu (DVM) a ddatblygwyd yn rhanbarthol, ynghyd â gwybodaeth hyfywedd atodol, yn ystod y cam Galwad am Safleoedd Ymgeisiol.  Dylid defnyddio'r Canllawiau hyn ochr yn ochr â'r Canllawiau Defnyddiwr sy'n cyd-fynd â'r model, a fideos 'sut i' sydd wedi'u paratoi i helpu gyda'r broses o gwblhau'r model. Gellir cael copi o'r model ar gyfer Safle Ymgeisiol penodol a'r Llawlyfr i Ddefnyddwyr drwy gysylltu â Thîm y CDLl ar ldp@powys.gov.uk gan roi manylion cyfieirad y safle a chynllun lleoliad.
  • Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol - wedi'i baratoi fel tystiolaeth i oleuo CDLl Newydd Powys.  Mae'n darparu arweiniad ar sut y dylid ystyried cymeriad tirlun fel rhan o'r cynigion datblygu.  Bydd angen i gynigwyr safleoedd gyfeirio at yr asesiad hwn wrth ymateb i Gwestiwn 44 ar y Ffurflen Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol.

Cefnogir CDLl Newydd Powys gan brosesau asesu penodol gyda'r nod o sicrhau bod y cynllun yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, llesiant a gofynion eraill yn gysylltiedig â chydraddoldeb, iechyd, y Gymraeg a'r amgylchedd.  Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi trosolwg o'r prif brosesau asesu a'u prif elfennau:

 Safleoedd Ymgeisiol - Defnyddio'r map Cyfyngiadau

 Gweld y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol rhyngweithiol

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae'r ACLl yn parhau i asesu'r holl Safleoedd Posibl i benderfynu a ydynt yn addas ai peidio i'w cynnwys yn y CDLl Newydd.  Dim ond detholiad o'r safleoedd mwyaf addas, ar ôl eu hasesu'n llawn, fydd yn cael eu cynnig fel dyraniadau tir yn y cam nesaf, sef Blaen Gynllun y CDLl Newydd.  Bydd cyfle i wneud sylwadau ar y safleoedd a nodwyd fel dyraniadau tir pan gyhoeddir y Blaen Gynllun ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus statudol (gweler y Cytundeb Cyflawni).

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu