Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) - Safleoedd Ymgeisiol
Agorodd Awdurdod Cynllunio Lleol Powys (ACLl) yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, am chwech wythnos o 1 Tachwedd tan 13 Rhagfyr 2022.
Mae'r holl safleoedd a gyflwynwyd bellach wedi eu cynnwys mewn Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol ynghyd â chanlyniadau cam cychwynnol hidlo safleoedd sydd ar gael ar gyfer gwneud sylwadau fel rhan o'r ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd.
Fel rhan o'r ymgynghoriad, mae modd hefyd cyflwyno safleoedd ymgeisiol newydd i'w hystyried.
Gwahoddir sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a chyflwyniadau ar gyfer safleoedd newydd rhwng Dydd Llun 19 Awst a dydd Llun 7 Hydref 2024. Mae'r Cyngor yn argymell defnyddio'r porth ymgynghori Powys County Council / Cyngor Sir Powys - Ymgynghoriadau. Gweler isod fideos 'how to'. Fel arall, gallwch ofyn am ffurflenni i gyflwyno sylwadau a ffurflenni i gyflwyno safleoedd ymgeisiol gan ldp@powys.gov.uk neu maent ar gael i'w casglu o leoliadau'r ymgynghoriad.
Canllawiau a Gwybodaeth ynglŷn â'r Broses Safleoedd Ymgeisiol
Dylai cyflwyniadau Safleoedd Ymgeisiol ystyried y canllawiau a gwybodaeth ganlynol:
- Nodiadau Canllaw ar Safleoedd Ymgeisiol (PDF) [465KB] - sy'n rhoi arweiniad ar ateb pob cwestiwn ar y ffurflen ac ar y wybodaeth ychwanegol sydd angen ei chyflwyno i ategu'r cais.
- Y Map Cyfyngiadau rhyngweithiol -i adnabod unrhyw gyfyngiadau polisi allweddol a safleoedd dynodedig. Bydd angen i gynigwyr safleoedd gyfeirio at y Map Cyfyngiadau er mwyn ymateb i gwestiynau perthnasol ar y Ffurflen Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol. Cofiwch NI ddylid dibynnu ar y data hwn at ddibenion cyfreithiol ac efallai na fydd yn cynnwys y gwybodaeth diweddaraf o'r newidiadau a wnaed i'r data cyfyngiadau yn y Sir. Ni all y Cyngor dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad neu anghywirdeb a all godi'.
- Methodoleg Asesu Safloedd Ymgeisiol (PDF) [594KB] - mae'n rhoi manylion y broses, meini prawf asesu a'r fethodoleg i'w defnyddio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i benderfynu ar addasrwydd Safleoedd Ymgeisiol i'w cynnwys fel Safleoedd wedi'u Dyrannu o fewn y CDLl Newydd. Mae Atodiad 1 o'r ddogfen hon yn rhoi manylion y fframwaith i'w ddefnyddio ar gyfer asesu safleoedd fel rhan o'r broses Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig.
- Canllawiau ar Asesu Safleoedd Ymgeisiol (PDF) [409KB] - mae hwn yn rhoi manylion y broses a fydd yn cael ei defnyddio i asesu hyfywedd Safleoedd Ymgeisiol. Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn disgwyl i gynigwyr safleoedd gyflwyno Asesiad Hyfywedd Safleoedd Cychwynnol, gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Datblygu (DVM) a ddatblygwyd yn rhanbarthol, ynghyd â gwybodaeth hyfywedd atodol, yn ystod y cam Galwad am Safleoedd Ymgeisiol. Dylid defnyddio'r Canllawiau hyn ochr yn ochr â'r Canllawiau Defnyddiwr sy'n cyd-fynd â'r model, a fideos 'sut i' sydd wedi'u paratoi i helpu gyda'r broses o gwblhau'r model. Gellir cael copi o'r model ar gyfer Safle Ymgeisiol penodol a'r Llawlyfr i Ddefnyddwyr drwy gysylltu â Thîm y CDLl ar ldp@powys.gov.uk gan roi manylion cyfieirad y safle a chynllun lleoliad.
- Asesiad Cymeriad Tirwedd Lleol - wedi'i baratoi fel tystiolaeth i oleuo CDLl Newydd Powys. Mae'n darparu arweiniad ar sut y dylid ystyried cymeriad tirlun fel rhan o'r cynigion datblygu. Bydd angen i gynigwyr safleoedd gyfeirio at yr asesiad hwn wrth ymateb i Gwestiwn 44 ar y Ffurflen Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol.
Cefnogir CDLl Newydd Powys gan brosesau asesu penodol gyda'r nod o sicrhau bod y cynllun yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, llesiant a gofynion eraill yn gysylltiedig â chydraddoldeb, iechyd, y Gymraeg a'r amgylchedd. Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi trosolwg o'r prif brosesau asesu a'u prif elfennau:
- Cyflwyniad i'r broses Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig (PDF) [357KB]
- Cyflwyniad i'r broses Asesu Rheoliadau Cynefinoedd (PDF) [386KB]
Safleoedd Ymgeisiol - Defnyddio'r map Cyfyngiadau
Sut i gael mynediad at y Ffurflen Cyflwyno Safle Ymgeisiol ar-lein.
Gweld y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol rhyngweithiol
Sut i gyflwyno sylw ar gyflwyniad safle ymgeisiol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae'r ACLl yn parhau i asesu'r Safleoedd Ymgeisiol a bydd yn asesu cyflwyniadau safle newydd i benderfynu a ydynt yn addas, ai peidio, i'w cynnwys yn y CDLl Newydd. Dylai unigolion sy'n cynnig safleoedd fod yn ymwybodol y gall peidio â chyflwyno gwybodaeth ddigon manwl arwain at beidio at ystyried safle.