Archwiliadau ar sgamwyr diogelwch tân yn y cartref
19 Hydref 2022
Mae adroddiadau am alwadau ffôn oddi wrth bobl yn honni i fod o'r gwasanaeth tân ar gynnydd, gyda chynigion o archwiliadau diogelwch tân yn y cartref, dywedodd Cyngor Sir Powys.
Bydd y galwr yn ceisio ennill ymddiriedaeth y sawl y byddant yn eu galw a chwarae ar eu pryderon diogelwch er mwyn derbyn mynediad llawn heb gyfyngiad i'w cartref, ac yna codi symiau gormodol o arian am y gwaith na fyddai'n ofynnol o angenraid.
Mae archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn eithriadol o bwysig, a bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn darparu'r rhain am ddim. Bydd staff y gwasanaeth tân a fydd yn cynnal yr archwiliadau hyn bob tro mewn gwisg, nid dillad plaen a bydd cerdyn adnabod gyda hwy.
Os hoffech archebu archwiliad diogelwch tân am ddim ar gyfer eich cartref, ffoniwch 0800 169 1234 neu edrychwch ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - https://www.mawwfire.gov.uk/
Dywedodd y Cyng. Richard Church, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae diogelwch tân yn bwnc mor bwysig, ac ni ddylid ei anwybyddu.
"Cofiwch y bydd yr archwiliadau hyn yn cael eu gwneud am ddim gan y gwasanaeth tân, felly byddwch yn wyliadwrus os bydd rhywun yn cysylltu â chi. Os ydych yn teimlo dan bwysau neu'n bryderus wedi ymweliad gan unrhyw un wrth eich drws, cysylltwch â'r heddlu."
Os oes gennych unrhyw amheuon am alwr yn honni i fod o'r gwasanaeth tân, cysylltwch â hwy yn uniongyrchol am y rhif uchod.
Peidiwch â defnyddio'r rhifau neu gyfeiriad a ddarperir gan ddieithryn - defnyddiwch y manylion oddi ar waith papur swyddogol sydd gennych yn eich meddiant eisoes o ymweliad llwyddiannus blaenorol neu oddi ar wefan swyddogol.
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach y cyngor wedi darparu'r cyngor canlynol i helpu trigolion sy'n cael eu targedu gan sgamiau:
- Yn fwy aml na pheidio, mae'r mathau hyn o sgamiau wedi'u targedu at y genhedlaeth hŷn. Ceisiwch ofyn am gadarnhad o gyfreithlondeb y galwr cyn caniatáu mynediad i'ch cartref. Ni fydd ymwelydd cyfreithlon yn cael unrhyw wrthwynebiad i chi'n cau'r drws ac yn eu gadael y tu allan tra byddwch yn cadarnhau pwy ydyn nhw.
- Os ydych yn teimlo dan bwysau neu'n bryderus wedi ymweliad gan unrhyw un wrth eich drws, cysylltwch â'r heddlu ar 101. Os y daw'n sefyllfa frys a'ch bod yn teimlo dan fygythiad, ffoniwch 999.
- Os yn bosibl, ceisiwch gael perthynas neu ffrind/cymydog dibynadwy yn bresennol pan fydd unrhyw ymweliad a gynllunnir yn digwydd.
- Byddwch yn ymwybodol o'r holl sgamiau a rhannu'r wybodaeth uchod gyda ffrindiau a theulu.
I adrodd am unrhyw ymdrechion i dwyllo, edrychwch ar www.actionfraud.police.uk