Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhieni yn derbyn golwg newydd ar ysgol gynradd flaenllaw newydd Powys

Image of parents at Ysgol Gymraeg Y Trallwng open day

21 Hydref 2022

Image of parents at Ysgol Gymraeg Y Trallwng open day
Mae rhieni darpar ddisgyblion wedi cael cyfle i gael golwg ar ddatblygu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Y Trallwng wrth iddynt ystyried opsiynau addysgol ar gyfer eu plant.

Roedd Ysgol Gymraeg Y Trallwng wedi cynnal diwrnod agored yn amlygu buddion addysg ddwyieithog yn y cyfleuster modern.

Roedd y diwrnod, a drefnwyd gan yr ysgol, Cyngor Sir Powys, a'r prif gontractwr, Wynne Construction, wedi rhoi'r cyfle i rieni â diddordeb i gael taith o amgylch y safle newydd a siarad ag arweinwyr yr ysgol am addysg cyfrwng Cymraeg fel testun.

Mae ailddatblygiad ar raddfa eang yn cael ei gynnal ar yr ysgol ar hyn o bryd i ddarparu lle ar gyfer 150 o ddisgyblion ynghyd â darpariaethau ar gyfer cyfleusterau cymunedol a blynyddoedd cynnar, gyda'r dyluniad hefyd yn cadw elfennau o adeilad hanesyddol Ysgol Maesydre.

Wynne Construction a leolir ym Modelwyddan sy'n arwain ar waith adeiladu'r prosiect, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2021 wedi iddynt gael eu penodi gan Gyngor Sir Powys.

Dywedodd Alison Hourihane, rheolwr gwerth cymdeithasol yn Wynne Construction: "Mae Wynne yn gwbl ymroddedig tuag at gyflwyno cyfleoedd cymdeithasol-economaidd cryf i'r ardaloedd rydym yn adeiladu arnynt, a dyma pam ein bod wrth ein boddau i fod yn gweithio gyda Phowys ar y cam gwych hwn ymlaen ar gyfer addysg yn y rhanbarth.

"Ein pleser ni oedd croesawu darpar rieni ar y safle i amlygu gwerth addysg cyfrwng Cymraeg fodern o'r radd flaenaf ynghyd ag arddangos gwaith gwych ein tîm hyd yn hyn.

"Mae gwaith ar y safle i gyflwyno man cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer addysg yn yr ardal yn mynd rhagddo'n dda, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr i mewn i'r cyfleusterau newydd yn y dyfodol agos."

Fel rhan o ymrwymiad Wynne a Phowys i gyflawni sero net ar ei adeiladau, mae ailddatblygu'r ysgol wedi cynnwys cyflwyno nifer o safonau Passivhaus i mewn i'r adeilad gyda'r nod o ostwng y defnydd o ynni a chadw gwres.  

Mae'r cyfleuster modern, a fydd hefyd yn cynnwys safle rhestredig Graddfa II hanesyddol Ysgol Maesydre, ar gwrs i fod ymysg y prosiectau hybrid-Passivhaus cyntaf i'w hardystio yn y DU.

Dywedodd Angharad Davies, pennaeth Ysgol Gymraeg Y Trallwng: "Mae gwerth addysg cyfrwng Cymraeg i blant yn cael ei gydnabod mwy gan rieni sy'n dymuno sicrhau y gall eu plant fwynhau'r buddion o fod yn ddwyieithog a'r cyfleoedd diddiwedd sy'n gysylltiedig ag addysg Gymraeg.

"Ein pleser ni oedd croesawu rhieni sydd â diddordeb sy'n edrych i helpu eu plant i gymryd y cam cyntaf i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg ac ateb cwestiynau brys am y system a sut yr ydym yn y sefyllfa orau i gefnogi eu plant.

"Roedd y trafodaethau rhwng rhieni a disgyblion presennol, a rhieni sydd â diddordeb yn eithriadol o fuddiol. Diolch i bawb fu'n cymryd rhan."

Bydd y prosiect, a gefnogwyd yn rhannol trwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn helpu'r cyngor i gyflwyno ei Strategaeth i Drawsnewid Addysg ym Mhowys, a ddiweddarwyd yn gynharach eleni.

Nod y rhaglen yw trawsnewid y profiad dysgu i ddisgyblion i sicrhau eu bod yn cael eu dysgu mewn cyfleusterau modern sydd eu hangen i gefnogi cyflwyno'r cwricwlwm Cymraeg.

Dywedodd y Cyng. Pete Roberts, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn ymroddedig tuag at wella mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws yr holl gamau allweddol addysg ym Mhowys ac eisiau cynyddu'r cyfleoedd i blant a phobl ifanc yn y sir, a'r rheini sy'n symud i mewn i'r sir, i ddod yn gwbl ddwyieithog.

"Mae'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn brosiect pwysig i'n helpu ni i gyflawni hyn a'n helpu ni i gyflwyno ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg."

I wybod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, edrychwch ar Taith at Ddwy Iaith.

Am ragor o wybodaeth am Wynne Construction, edrychwch ar www.wynneconstruction.co.uk