Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dyfodol canol dref Aberhonddu

Image of an artists impression of Brecon town centre

21 Hydref 2022

Image of an artists impression of Brecon town centre
Bydd sesiwn galw heibio ar gyfer cam olaf yr ymgynghoriad i wella mannau cyhoeddus yng nghanol tref Aberhonddu, yn cael ei chynnal ddydd Mercher 2 Tachwedd, rhwng 3.30pm a 6.30pm yn y Gaer, Aberhonddu.

Mae Cyngor Sir Powys yn ystyried ffyrdd o wella mannau cyhoeddus yng nghanol tref Aberhonddu ar y cyd ag Amey Consulting ac LDA Design.  Mae'r ffocws ar wella a blaenoriaethu profiad cerddwyr, gwella cysylltiadau a bioamrywiaeth a chreu mannau cyhoeddus diogel a hygyrch sy'n gwella nodweddion unigryw'r dref ar hyd y Stryd Fawr; gan gynnwys y Struet, Stryd Fawr Uchaf, Stryd Fawr Isaf a'r Gwrthglawdd.

Mae'r ymgynghoriad ar y gwelliannau arfaethedig hyn wedi bod ar gael ar-lein ers mis Awst, gydag ymgysylltu ar y stryd ddiwedd mis Awst.  Y sesiwn galw heibio ddydd Mercher 2 Tachwedd fydd y cyfle olaf i bobl leol, busnesau, ac ymwelwyr i gael sgwrs am y cynlluniau ac i rannu eu syniadau a'u profiadau ar sut y maen nhw'n defnyddio canol y dref a sut y gellid ei wella.

Daeth llawer o bobl i ddigwyddiad galw heibio tebyg a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghrughywel, gydag adborth ardderchog wedi'i roi ar gyfer y broses ymgynghori ynghylch dyfodol canol tref Crughywel. 

"Yn dilyn ymarfer ymgysylltu anffurfiol cychwynnol gyda chymunedau lleol 'nôl ym mis Mehefin 2021, rydym wedi ystyried barn pobl a manteisio ar y cyfle i edrych ar sut y gallem newid a gwella'r ffordd rydym wedi defnyddio canol ein trefi yn draddodiadol." esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Gwnaed newidiadau dros dro i ardaloedd cyhoeddus ein trefi yn ystod cyfyngiadau Covid a oedd yn golygu bod busnesau ac ymwelwyr yn defnyddio'r gofod yn wahanol.  Dangosodd hyn sut y gall canol ein trefi esblygu a gwneud defnydd o'r gofod mewn ffyrdd eraill, yn enwedig drwy ddefnyddio ein hardaloedd allanol.

"Mae'n bwysig cydbwyso barn holl ddefnyddwyr canol y dref; bydd ymwelwyr, trigolion a busnesau, yn gallu dod i'r sesiwn galw heibio hon ddydd Mercher 2 Tachwedd yn Y Gaer.  Dyma'r cyfle olaf a phwysig i ni gasglu adborth gwerthfawr a fydd yn cael ei ddefnyddio i lunio sut y bydd canol y dref yn edrych, gweithio, a theimlo yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at weld cymaint ohonoch chi yno â phosibl."

Ynghyd â chynrychiolwyr o'r cyngor, Amey Consulting a LDA Design, bydd Accessibility Powys hefyd yn mynychu'r sesiwn galw heibio i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn effeithiol yn y rhan olaf hwn o'r ymgynghoriad a bod pob ystyriaeth yn cael ei roi i sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer dyfodol y dref yn hygyrch i bawb, yn enwedig y rhai hynny sydd â phroblemau symudedd.

Sesiwn taro heibio - ymgynghoriad ar ddyfodol canol dref Aberhonddu:
Dydd Mercher 2 Tachwedd, 3.30pm and 6.30pm
Y Gaer, Heol Morgannwg, Aberhonddu. LD3 7DW