Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor yn ei gwneud hi'n haws i gwmnïau llai gynnig am gontractau

building contractors

24th Hydref 2022

building contractors
Bydd contractwyr sy'n dymuno cael eu hystyried i gwblhau gwaith adeiladu ar gyfer Cyngor Sir Powys yn gweld y broses yn symlach yn y dyfodol diolch i system gaffael newydd.

Y bwriad yw ei gwneud hi'n haws i fusnesau bach a chanolig ymgymryd â phrosiectau adeiladu bach sy'n costio rhwng £50,000 a £500,000.

Gall y rhain gynnwys gwaith o fewn eiddo sy'n perthyn i'r cyngor, gan gynnwys tai ac adeiladau corfforaethol fel ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, cartrefi gofal, canolfannau dydd.

Bydd angen i gontractwyr sydd â diddordeb wneud cais i ymuno â'r System Brynu Dynamig (DPS) newydd ac os byddant yn llwyddiannus, byddant yn cael gwybod yn awtomatig am waith adeiladu ac yn cael cyfle i gyflwyno ceisiadau.

I wneud cais am y DPS, bydd angen cofrestriad Iechyd a Diogelwch trydydd parti SSIP, cofrestru â Constructionline i statws Lefel 2 (Arian) o leiaf yn y categorïau gwaith perthnasol a meddu ar lefelau priodol o yswiriant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd David Thomas: "Mae'r cyngor wrth ei fodd yn cynnig system symlach i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint i gael mynediad i waith adeiladu'r cyngor.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r gronfa o gontractwyr wedi'u rhag-gymhwyso i gysylltu â'n tîm caffael. Byddant yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi a'ch helpu gyda'ch cais."

Os ydych yn dymuno cael mwy o wybodaeth am y DPS, neu i drafod gofynion ar gyfer gwaith gwerth is, anfonwch e-bost at commercialservices@powys.gov.uk, neu cysylltwch â:

·         Claire Davies ar 01597 827686

·         Chloe Smith ar 01597 827367