Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor yn lansio hyb gwybodaeth ar gostau byw

Image of a house and a stack of coins

25 Hydref 2022

Image of a house and a stack of coins
Cyhoeddodd y cyngor sir ei fod wedi lansio hyb gwybodaeth sydd â chyngor a chefnogaeth ar ddelio â chostau byw.

Mae Cyngor Sir Powys wedi gweithio'n agos â'i sefydliadau partner lleol i roi llwyth o wybodaeth at ei gilydd mewn un lle i sicrhau fod pawb yn gwybod pa gymorth sydd ar gael a sut i ofyn amdano.

Mae'r hyb ar-lein i'w weld yma Costau Byw, ac fe'i grewyd i gynnig gymaint o gyngor â phosibl i'r rhai ym Mhowys sydd ei angen dros y cyfnod anodd hwn.

Mae wedi'i rannu'n adrannau i'w wneud yn hwylus i gael y wybodaeth, fel a ganlyn:

  • Cyngor ar ynni yn y cartref
  • Iechyd a lles
  • Cyngor ar arian, budd-daliadau a dyledion
  • Banciau Bwyd Powys
  • Help gyda biliau gwasanaeth
  • Help i fusnesau
  • Cefnogaeth i deuluoedd â phlant

Mae pob adran yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, canllawiau a chyngor all helpu gyda phroblemau costau byw, ynghyd â rhifau ffôn a dolenni i wefannau gwasanaethau eraill ar draws Powys a'r DU all helpu os byddwch angen mwy o wybodaeth ar fater penodol.

Mae'r cyngor hefyd yn creu rhwydwaith o fannau cynnes ar draws Powys, sef mannau sy'n gallu cynnig croeso cynnes i bobl Powys dros y gaeaf a chyfle i gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau tra'n cadw'n gynnes.   Bydd manylion y mannau hyn i'w gweld ar yr hyb costau byw yn fuan.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Gyda misoedd oer y gaeaf ar ein gwarthaf, bydd effaith yr argyfwng costau byw i'w deimlo nawr yn fwy nag erioed.

"Crewyd yr hyb newydd i roi'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf i drigolion a chymunedau i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn.

"Rydym am sicrhau fod pobl Powys yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am gymorth, cefnogaeth ac arian yn hawdd ac yn gyflym.  Byddwn yn diweddaru'r hyb yn rheolaidd a byddwn yn parhau i weithio gyda thrigolion a'n cymunedau i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw."

I wybod mwy am yr help sydd ar gael, ewch i Costau Byw.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu