Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dyddiad cau wedi'i estyn ar gyfer holiadur addysg cyfrwng Cymraeg

Image of a primary school classroom

27 Hydref 2022

Image of a primary school classroom
Mae'r cyngor sir wedi dweud fod holiadur a ddatblygwyd i helpu asesu'r galw posibl am addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Dwyrain Sir Faesyfed wedi cael ei ddyddiad cau wedi'i estyn.

Mae Cyngor Sir Powys yn archwilio pa mor ddichonol yw sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg yn adeilad Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydieithon yn y Dolau ger Llandrindod.

Mae elfen allweddol o fewn y gwaith yn cynnwys asesu'r galw posibl am addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Dwyrain Sir Faesyfed.

I helpu gyda'r asesiad, mae'r cyngor wedi lansio holiadur y mis diwethaf (mis Medi) i'w lenwi gan rieni disgyblion o oedran cyn ysgol a chynradd a'r rheini sy'n ystyried dechrau teulu o fewn ardaloedd Llandrindod, Tref-y-clawdd a Llanandras.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi cael ei estyn yn awr tan ddydd Sul 6 Tachwedd.

Dywedodd y Cyng. Pete Roberts, Aelod o'r Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Ers lansio'r holiadur, mae'r cyngor wedi derbyn nifer o gwestiynau oddi wrth rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg am y gefnogaeth y byddent yn ei gael i helpu eu plentyn mewn addysg cyfrwng Gymraeg.

"Mae tudalen wybodaeth benodedig o'r enw Taith at Ddwy Iaith gan y cyngor sy'n cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg cyfrwng Cymraeg a buddion dwyieithrwydd sy'n ateb nifer o'r cwestiynau hyn.

"Fe fyddwn yn annog rhieni i edrych ar y dudalen wybodaeth Taith at Ddwy Iaith fel bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt cyn llenwi ein holiadur.

"O ystyried y cwestiynau penodol hyn, rydym wedi gwneud y penderfyniad i estyn y dyddiad cau fel ei fod yn sicrhau'r cyfle gorau i rieni ddysgu am addysg cyfrwng Cymraeg cyn iddynt gyflwyno eu hymatebion i'n harolwg."

I wybod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, edrychwch ar Taith at Ddwy Iaith.

I lenwi'r holiadur, edrychwch ar www.haveyoursaypowys.wales/dolau-wm

Mae gan rieni tan ddydd Sul, 6 Tachwedd i gyflwyno eu hymatebion.

Mae gwybodaeth bellach am yr holiadur ar gael trwy anfon e-bost at transforming.education@powys.gov.uk