A oes gennych chi bwnc llosg sy'n haeddu cael sylw cyhoeddus?
31 Hydref 2022
Gall unrhyw un wneud hyn fel gwestai, neu os oes gennych 'Fy Nghyfrif', gallwch fewngofnodi a bydd rhannau o'r ffurflen ar-lein yn cael eu llenwi'n awtomatig ar eich cyfer os ydych wedi ychwanegu eich cyfeiriad a'ch manylion cyswllt at eich proffil.
Ni allwn drafod pob awgrym, ond fe fyddwn yn ei ystyried, a mater i'r pwyllgorau craffu unigol fydd penderfynu a yw cyflwyniad yn berthnasol.
Gall trigolion hefyd defnyddio'r wefan yn yr un modd i roi sylwadau ar eitemau agenda ar gyfer unrhyw un o bwyllgorau craffu Cyngor Sir Powys.
Bydd perchnogion Fy Nghyfrif hefyd yn gallu dychwelyd a gweld manylion eu ceisiadau ar unrhyw adeg a gweld y wybodaeth ddiweddaraf am eu cynnydd. Os ydyn nhw'n ffonio'r cyngor am gais, bydd modd i swyddogion gael gafael ar y manylion hynny'n gyflym.
Mae'r pwyllgorau craffu yn helpu i ddatblygu ac adolygu polisïau, monitro perfformiad a chyllidebau, adolygu gwasanaethau'r cyngor a materion sy'n effeithio ar Bowys ac maen nhw'n gwneud argymhellion i'r cabinet neu'r cyngor. Maen nhw'n rhan annatod o sicrhau bod y cyngor yn gweithredu'n effeithiol, ond nid ydynt yn gwneud penderfyniadau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw, y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Os oes gennych bwnc yr ydych yn credu'n gryf iawn ynddo ac yn meddwl ei fod yn haeddu cael ei drafod yn fanylach, cysylltwch â ni drwy'r wefan.
"Rydym bob amser yn awyddus i glywed beth yw barn trigolion a busnesau am waith y cyngor fel y gallwn wneud gwelliannau i'n gwasanaethau. Rydym hefyd yn gwybod y gall syniadau da, sydd â'r pŵer i wella bywydau a chymunedau, ddod o unrhyw le."
Ni all Pwyllgorau Craffu ystyried cwynion unigol, cwynion, neu feysydd sy'n peri pryder, nac unrhyw faterion rheoleiddio megis cynllunio, trwyddedu tacsis, safonau masnach neu drwyddedu. Rhaid i'r pynciau a awgrymir effeithio ar grŵp neu gymuned o bobl sy'n byw neu'n gweithio ym Mhowys, yn ymwneud â gwasanaeth, nad yw pwyllgor arall wedi ymdrin â nhw.
I awgrymu pwnc i'w drafod neu i roi sylwadau ar eitem ar yr agenda ewch i wefan Cyngor Sir Powys a chwilio 'pwyllgorau craffu'. Neu, os hoffech gael 'Fy Nghyfrif' chwiliwch am hwnnw'n gyntaf ar y wefan.
Rydym wedi gwneud y newidiadau hyn yn dilyn adborth gan Archwilio Cymru, sydd â'r nod o roi cyfle i drigolion gyfrannu at waith pwyllgorau craffu. Mae hefyd yn rhan o Raglen Drawsnewid y cyngor i wireddu dyheadau yn ein gynllun gwella corfforaethol.
Gallwch hefyd awgrymu pynciau trwy lythyr - e-bostiwch y Rheolwr Craffu a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Sir Powys, Wyn Richards: wyn.richards@powys.gov.uk