Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Safonau'r Gymraeg

Welsh Language Standards Image

Cyflwynodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Safonau'r Gymraeg. Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithredu'r safonau hyn ers 2016, ac maent yn berthnasol i bob tîm o fewn pob gwasanaeth.

Mae'r Safonau'n esbonio sut mae gofyn i'r Cyngor ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, ystyried effaith ei gynigion a'i benderfyniadau ar yr iaith Gymraeg, a hyrwyddo a chynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ym Mhowys.

Dwy egwyddor arweiniol Mesur y Gymraeg yw:

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  • Dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno.

Ac mae Safonau'r Gymraeg wedi'u cynllunio er mwyn:

  • Rhoi mwy o eglurder i sefydliadau ar eu dyletswyddau o ran y Gymraeg
  • Rhoi mwy o eglurder i siaradwyr Cymraeg am y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg
  • Sicrhau mwy o gysondeb o wasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd

Mae Hysbysiad Cydymffurfio Safonau'r Gymraeg yn amlinellu'r dyletswyddau sydd gan y Cyngor, ac wedi'i rannu'n 5 adran:

  • Cyflenwi Gwasanaeth - e.e. dros y ffôn, defnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd, derbynfeydd y Cyngor, llythyron a dogfennau, gwasanaethau ar-lein.
  • Llunio Polisi - asesu effaith polisïau a phenderfyniadau'r Cyngor ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, a pheidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, a meddwl sut y gallai newid y polisïau a'r penderfyniadau i gael gwell canlyniad i'r Gymraeg.
  • Gweithredu - e.e. sicrhau fod gwybodaeth a gweithdrefnau mewnol ar gael i staff yn Gymraeg, a bod adnoddau a hyfforddiant ar gael i staff i'w helpu i weithio yn Gymraeg. Sicrhau fod gan staff y sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
  • Hybu - llunio strategaeth ar gyfer hybu'r Gymraeg a hwyluso'i defnydd yn yr ardal.
  • Cadw Cofnodion - y cofnodion y bydd angen i'r Cyngor eu cadw yn ymwneud â'r Safonau

O dan Safonau'r Gymraeg, rhaid i ni lunio a chyhoeddi polisi dyfarnu grantiau. Trwy'r polisi hwn, rydym yn ystyried pa effeithiau (yn bositif neu'n andwyol) y byddai dyfarnu grant yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Rydym hefyd yn ystyried sut y gall dyrannu grant gael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif ar y Gymraeg, a sut mae sicrhau na fydd grantiau'n cael effeithiau andwyol.

Weithiau rhaid i ni ofyn i ymgeiswyr am wybodaeth ychwanegol er mwyn ein cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant ar y Gymraeg.

Polisi ar Ddyfarnu Grantiau (PDF) [201KB]

Hysbysiad Cydymffurfio Safonau'r Gymraeg

Mae'r rhestr lawn o Safonau y mae gofyn i'r Cyngor gydymffurfio â hwy i'w gweld yn Hysbysiad Cydymffurfio Safonau'r Gymraeg (PDF) [669KB].

Mae'r ddogfen hon yn dangos sut rydym yn bwriadu cydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg  Dogfen Bwriadu Cydymffurfio (PDF) [180KB]

Goruchwylio sut rydym yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg

Trefniadau Cyngor Sir Powys ar gyfer goruchwylio cydymffurfedd â Safonau’r Gymraeg (PDF) [245KB]

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2023 (PDF) [417KB]

Polisi Defnyddio'r Gymraeg yn Fewnol

Ein polisi ar ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol gyda'r bwriad o hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

Polisi Powys Defnyddio'r Gymraeg yn Fewnol (PDF) [108KB]

Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y Cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch weithdrefn gwyno'r Cyngor ar ein tudalen Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion.

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg - www.comisiynyddygymraeg.cymru