Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i leoedd ar hyd a lled y DU.

Mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer buddsoddiadau lleol erbyn Mawrth 2025, gyda phob rhan o'r DU yn cael dyraniad.

Mae dogfen Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru y DU 2022-25 a  gynhyrchwyd gan Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys i gyd-fynd ag ôl troed cynyddol Canolbarth Cymru yn manylu ar y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi'r dyraniad UKSPF gwerth £42.4m yng Nghanolbarth Cymru dros y tair blynedd nesaf, hyd at fis Mawrth 2025.

Mae hyn wedi'i lywio gan ein strategaethau economaidd lleol ac asesiadau Lles, dogfennau rhanbarthol ac astudiaethau, gwersi a ddysgwyd o rowndiau ariannu blaenorol ac ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid.

Bydd yr UKSPF yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant pob rhan o'r DU trwy gyflawni pob un o'r amcanion ffyniant bro:

  • Hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maen nhw ar ei hôl hi
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau gwannaf
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle collwyd
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny lle nad oes asiantaeth leol
  • Drwy gyfrwng Rhaglen Lluosi, cynyddu lefelau rhifedd ymarferol ymysg oedolion (Rhaglen rhifedd oedolion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw Lluosi.)

Fel y nodir yng nghanllawiau SPF, bydd Ceredigion a Phowys yn cyflawni eu dyraniadau SPF drwy fuddsoddi yn y meysydd blaenoriaeth buddsoddi a restrir isod;

(a) Cymunedau a Lle

(b) Cefnogi Busnesau Lleol

(c) Pobl a Sgiliau

(d) Lluosi

Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol y Canolbarth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25 (PDF) [3MB]

Byddwn yn cyhoeddi galwadau am geisiadau pan fyddant yn barod. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau ac anfonwch e-bost at yr Awdurdodau Lleol (manylion isod) i gofrestru eich diddordeb.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: