Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sgamwyr Arbed Ynni

Image of person holding mobile phone

3 Tachwedd 2022

Image of person holding mobile phone
Mae'r cyngor sir yn annog trigolion Powys i wylio rhag sgamwyr arbed ynni.

Yn ôl Cyngor Sir Powys mae mwy a mwy o drigolion hŷn yn derbyn galwadau ffôn wrth bobl sy'n honni i fod yn gyflenwyr ynni neu'n bartneriaid cysylltiedig.

Mae'r Sefydliad Safonau Masnach wedi derbyn dros 200 o gwynion am alwadau ffôn wrth sgamwyr sy'n cynnig teclyn a honnir i dorri 40% oddi ar eu defnydd o drydan.

Mae rhai o'r teclynnau hyn wedi cael eu profi ac wedi methu cyrraedd safonau diogelwch trydanol sy'n golygu eu bod yn beryglus gyda'r potensial i achosi tân neu ladd rhywun â thrydan.  Mae'r profion hefyd wedi dangos nad yw'r teclynnau hyn yn arbed braidd dim trydan.

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi prynu un o'r teclynnau hyn, stopiwch ei ddefnyddio ar unwaith.  Os ydych wedi talu amdano ar gerdyn debyd neu gredyd, efallai y gallwch hawlio ad-daliad trwy chargeback neu Adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae'n drist gweld sgamwyr yn defnyddio'r argyfwng ynni presennol fel cyfle i wneud arian.

"Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi derbyn galwad o'r fath neu wedi prynu un o'r teclynnau hyn, rhowch wybod iddynt beth yw'r peryglon.

"Rydym yn byw mewn cyfnod pan mae mwyafrif y bobl yn chwilio am bob ffordd i arbed arian ac felly'n darged hawdd i'r sgamiau hyn, yn arbennig trigolion hŷn, felly rwy'n annog pawb i fod yn wyliadwrus."

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu eich biliau ynni neu'n credu y bydd pethau'n anodd i chi, cysylltwch â'ch cwmni ynni mor fuan â phosibl.  Dan reolau Ofgem, mae'n rhaid i'r cwmniau hyn weithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu sy'n fforddiadwy i chi.  Mae hyn yn cynnwys adolygu cynllun a gytunwyd gennych yn flaenorol.

Os na allwch gytuno ar ffordd i dalu, angen help i hawlio ad-daliad trwy chargeback neu wybodaeth ar Adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr, ewch i: https://www.citizensadvice.org.uk/.

I roi gwybod am unrhyw ymdrechion i dwyllo, ewch i www.actionfraud.police.uk