Toglo gwelededd dewislen symudol

Alle eich plentyn ddylunio'r cerdyn llyfrgell newydd ar gyfer Powys?

Library card

4 Tachwedd 2022

Library card
Mae Gwasanaeth Llyfrgell Powys yn cynnal cystadleuaeth i blant a phobl ifanc ddylunio cerdyn aelodaeth newydd y llyfrgell.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un rhwng 4 ac 16 oed a bydd yn cael ei rhannu'n ddau gategori oedran: plant ysgol gynradd (4-11 oed), a phlant ysgol uwchradd (11-16 oed), gyda gwobr ar gyfer enillydd pob categori. Bydd un o'r dyluniadau buddugol yn cael ei ddewis i greu cerdyn aelodaeth newydd y llyfrgell.

Thema'r gystadleuaeth yw 'Beth mae llyfrgelloedd ym Mhowys yn eu golygu i chi?' ac mae modd creu dyluniadau drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng megis paent, arlunio neu collage.

I gymryd rhan, bydd angen creu eich gwaith celf ar ddarn o bapur A4 ar ei ochr, a gallwch ei gyflwyno yn eich llyfrgell leol neu anfonwch ar e-bost i library@powys.gov.uk cyn dyddiad cau'r gystadleuaeth sef dydd Mercher 16 Tachwedd.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, "Mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i bobl ifanc Powys arddangos eu dawn greadigol a'u talentau ar draws y sir.

"Hoffwn ofyn i bob rhiant i annog eu plant i roi cynnig ar hyn a gweld beth y gallan nhw eu creu.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y dyluniadau lliwgar o bob rhan o'r sir."

Cofiwch wrth greu eich dyluniad,

  • Peidiwch â chynnwys unrhyw gymeriadau penodol o lyfrau, oherwydd ni ellir eu hargraffu ar y cardiau
  • Cofiwch fod y cardiau'n fach, felly bydd rhaid i'ch gwaith celf sefyll allan pan fydd yn cael ei wneud yn llai i fynd ar y garden

Cofiwch gynnwys eich enw, eich dyddiad geni a sut y gellir cysylltu â chi.  Os ydych wedi creu eich dyluniad fel rhan o brosiect ysgol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enw eich ysgol, blwyddyn ac athro ar y cefn, ac os ydych wedi penderfynu rhoi cynnig arni y tu allan i'r ysgol, cofiwch gynnwys enw a rhif ffôn rhiant neu warchodwr.

Os ydych yn cyflwyno eich gwaith celf gwreiddiol, gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu eich manylion ar y cefn, ond cofiwch na ellir dychwelyd eich dyluniad, felly argymhellir eich bod yn sganio ac yn anfon e-bost os y gallwch.

Os ydych yn sganio ac yn e-bostio eich cais, cadwch y gwaith celf gwreiddiol, rhag ofn iddo gael ei ddewis fel yr enillydd a bydd yn cael ei ddefnyddio i greu cerdyn y llyfrgell