Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadw lle yn y Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl

Simon Hatch, Director of Carers Trust Wales, will be the keynote speaker at the Powys Unpaid Carers Conference 2022.

7 Tachwedd 2022

Simon Hatch, Director of Carers Trust Wales, will be the keynote speaker at the Powys Unpaid Carers Conference 2022.
Gallwch nawr gadw lle ar Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl 2022, un ai yn bersonol neu ar-lein.

Mae'r gynhadledd am ddim a'r nod yw codi ymwybyddiaeth am anghenion gofalwyr di-dâl a rhoi cyfle iddynt rannu gwybodaeth am eu rôl gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau yn y sir.

Thema'r gynhadledd eleni yw:

  • Sut mae gofalwyr yn cael eu gwerthfawrogi?
  • Sut y mae gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio ac yn cysylltu â gofalwyr?

Cynhelir y gynhadledd ar ddydd Gwener 25 Tachwedd rhwng 10am - 3.30 pm mewn tri lleoliad ac ar-lein:

  • Academi Iechyd a Gofal Powys, Ysbyty Bronllys, LD3 0LY
  • Y 'Media Resource Centre', Llandrindod, LD1 6AH
  • Canolfan Gymuned ac Ymwelwyr Hafan yr Afon, Y Drenewydd, SY16 2NZ

Bydd y gynhadledd yn digwydd ar safle Bronllys, gyda'r rhan fwyaf o'r siaradwyr a'r panel yno.  Bydd y cyfan yn cael ei ffrydio'n fyw i safleoedd Llandrindod a'r Drenewydd ac i ofalwyr di-dâl yn eu cartrefi.

Ymysg y siaradwyr fydd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a nifer o ofalwyr di-dâl Powys sydd â phrofiad o waith gofalu.

Dylai gofalwyr ar y tri safle, a'r rhai o adref, fod yn gallu cymryd rhan yn y trafodaethau, ar yr amod fod y dechnoleg yn gweithio yn ôl y bwriad.

Trefnir y gynhadledd ar y cyd gan Academi Iechyd a Gofal Powys a Credu, sefydliad sy'n helpu teuluoedd a ffrindiau ar draws Powys sy'n gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl.

Meddai Jenny O'Hara Jakeway, Prif Weithredwr Credu: "Dyma gyfle gwych i ofalwyr di-dâl Powys ddod at ei gilydd a rhannu profiadau gyda'i gilydd a gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gallu helpu i lunio'r gwasanaethau maen nhw'n ei dderbyn.

"Bydd hefyd yn gyfle iddynt gael seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu ac i wneud cysylltiadau newydd gydag eraill sydd yn yr un cwch â nhw."

I gadw lle, ewch i: Powys Unpaid Carers Conference 2022 / Cynhadledd Gofalwyr Di-Dâl Powys 2022 Tickets, Fri 25 Nov 2022 at 10:00 | Eventbrite

Am fwy o wybodaeth, galwch Credu ar 01597 823800 neu ar e-bost powys.healthandcareacademy@wales.nhs.uk

Sefydlwyd Academi Iechyd a Gofal Powys gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys sy'n cynnwys nifer o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys sy'n cydweithio i wella iechyd a lles trigolion y sir.

Mae'r gynhadledd yn digwydd y diwrnod ar ôl Diwrnod Hawliau Gofalwyr (dydd Iau 24 Tachwedd).

LLUN:  Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, a fydd yn brif siaradwr yng Nghynhadledd Gofalwyr Di-dâl Powys 2022.