Parc busnes hirddisgwyliedig ym Mhowys yn barod i'w feddiannu
10 Tachwedd 2022
Mae naw uned newydd wedi eu dylunio a'u creu ym Mharc Busnes Aber-miwl ar safle maes glas yn y pentref rhwng y Trallwng a'r Drenewydd.
Cafodd y safle ei brynu gan Lywodraeth Cymru ac mae'r cyngor yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a roddwyd ganddynt i sicrhau bod y datblygiad yn cael ei gwblhau.
Mae'r cwmni SWG Group o Bowys wedi bod ar y safle ers deg mis, gan greu'r unedau a'r isadeiledd cysylltiedig.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Gysylltiedig: "Ar ôl i'r unedau busnes hyn gael eu clustnodi at ddibenion cyflogaeth o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ers dros 20 mlynedd, mae'n gyffrous iawn eu gweld yn cael eu darparu mewn ardal lle mae galw mawr am safleoedd cyflogaeth."
"Mae Parc Busnes Aber-miwl yn ddatblygiad o safon uchel a fydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at economi Powys. Bydd y lleoliad yn manteisio ar brif seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y sir, gyda'r safle hefyd yn cyfrannu tuag at wytnwch newid hinsawdd y cyngor drwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a charbon isel."
Dywedodd Jacqui Gough, cyfarwyddwr SWG Group: "Mae'r parc busnes hwn wedi bod yn brosiect enfawr i ni ac rydym yn falch iawn o'i gyflawni ar gyfer y cyngor a'i weld yn dwyn ffrwyth."
"Roedd sawl agwedd i'w hystyried yn ystod y broses ddylunio ac adeiladu ar gyfer y prosiect hwn, ac roedd cynaliadwyedd amgylcheddol yn un o'r elfennau tyngedfennol."
"Mae'r parc busnes yn gyfleuster effeithiol ac effeithlon, ac mor gynaliadwy â phosibl wrth ystyried yr ardal o'i gwmpas, ac roedd angen ac adeiladu ar y rhywogaethau brodorol fydd yn cael eu plannu ar y safle, a chynyddu."
"Mae ein staff a'n contractwyr wedi gweithio'n galed i ddarparu opsiynau hyblyg i fusnesau newydd a chwmnïau lleol, gan roi hwb i'r economi leol a gwella rhagolygon cyflogaeth lleol."
Mae pob uned yn elwa o'r gallu i ddefnyddio seilwaith gwefru cerbydau trydan a'i chyfleusterau cegin a lles ei hun.
Mae gweddill yr unedau ar gael i'w rhentu gan y cyngor, am fwy o fanylion, cysylltwch ag aelod o'r tîm gosod masnachol ar 01597 826773 neu anfonwch e-bost at property.services@powys.gov.uk arall. Mae'r eiddo hefyd yn cael eu hysbysebu ar Zoopla Commercial.