Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ffliw Adar

Image of a chicken

11 Tachwedd 2022

Image of a chicken
Mae perchnogion dofednod ym Mhowys yn cael eu hatgoffa gan y cyngor sir i sicrhau fod ganddynt fesurau bioddiogelwch uwch ar waith i leihau lledaeniad Ffliw Adar.

Fis diwethaf (Hydref), roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan er mwyn diogelu dofednod ac adar caeth rhag straen o'r Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI).

Nawr mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys yn atgoffa ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill fod y parth atal yn gofyn iddynt gymryd camau priodol ac ymarferol gan gynnwys: 

  • Cadw adar a gedwir oddi ar dir y gwyddir i fod, neu mewn perygl o fod, yn cael ymweliadau gan adar dŵr gwyllt, neu dir sydd wedi'i lygru gyda'u baw neu blu
  • Sicrhau nad yw ardaloedd lle mae adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, yn enwedig adar dŵr, er enghraifft, trwy roi rhwydi dros byllau ac ardaloedd cyfagos a symud ffynonellau bwyd i adar gwyllt;
  • Rhoi bwyd a dŵr i'ch adar mewn ardaloedd amgaeedig i rwystro adar gwyllt;
  • Ceisio lleihau symudiadau gan bobl i mewn ac allan o ardaloedd caeedig i adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau, gan ddefnyddio trochfeydd traed cyn mynd i mewn i ardaloedd caeedig i ddofednod, a cheisio cadw'r ardaloedd lle mae'r adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Sicrhau fod yr holl ddeunyddiau gwellt/gwelyo, cyfarpar, dillad ac unrhyw beth arall sy'n mynd i mewn i'r ardaloedd lle cedwir yr adar yn rhydd o lygru uniongyrchol neu anuniongyrchol gyda HPAI, a ledaenir gan fwyaf trwy faw adar.
  • Ceisio cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân o ddofednod eraill.

Mae'r gofynion hyn yn berthnasol i unrhyw adar a gedwir, gan gynnwys heidiau bychain gyda llai na 50 o adar.

Bydd gofyn i geidwaid hefyd gyda mwy na 500 o adar i gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol, gan gynnwys cyfyngu mynediad i bobl nad ydynt yn hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i ardaloedd caeedig i'r adar a glanhau a diheintio cerbydau.

Mae Tîm Lles Anifeiliaid y cyngor hefyd yn gofyn i aelodau'r cyhoedd roi gwybod am adar marw a ganfyddir i linell gymorth Defra ar 03459 335577 fel y gellir ei fonitro gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Bydd rhai o'r adar gwyllt hyn yn cael eu casglu gan yr APHA er dibenion goruchwylio ond ni fydd y cyfan o'r adar yn cael eu casglu.

Os na fydd adar gwyllt marw eu hangen ar gyfer dibenion goruchwylio ffliw adar a bod y tirfeddianwyr wedi cymryd cyfrifoldeb dros waredu â'r carcasau, yna cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw trefnu gwaredu diogel. Mae'r cyngor hefyd yn argymhell fod ystyriaeth yn cael ei roi i waredu â charcasau ar eiddo preswyl, yn enwedig mewn ardaloedd lle y gall plant neu anifeiliaid anwes gael mynediad iddynt.

Dylid gwaredu â charcasau adar gwyllt marw yn unol â gofynion sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (ABP). Os tybir fod adar wedi'u heintio gydag afiechyd y gall ledaenu'n hawdd i bobl neu anifeiliaid, megis ffliw adar, dylid gwaredu â charcasau fel categori 1 ABP.

Os canfyddir adar marw ar dir cyhoeddus, cyfrifoldeb y cyngor yw trefnu gwaredu â'r carcasau. Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw adar marw a ganfyddir ar dir cyhoeddus trwy ffonio 01597 826031 neu anfon e-bost at trading.standards@powys.gov.uk

Dywedodd y Cyng. Richard Church, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Cafodd y parth atal ei datgan i leihau'r perygl o heintiau gan adar gwyllt felly rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth gael y mesurau bioddiogelwch priodol ar waith.

"Dylai ceidwaid dofednod barhau'n wyliadwrus am unrhyw arwyddion o afiechyd yn eu hadar neu unrhyw adar gwyllt, a gofyn am gyngor di-oed oddi wrth filfeddyg os oes ganddynt unrhyw bryderon.

"Mae'r DU ynghanol brigiad digynsail o achosion Ffliw Adar ar hyn o bryd a bydd mudo gaeaf gan adar gwyllt i'n glannau yn golygu fod y sefyllfa yn debygol o fynd yn waeth cyn iddo wella.

"Mae'n bwysig fod y cyhoedd yn rhoi gwybod am unrhyw adar gwyllt marw i linell gymorth Defra ar gyfer dibenion goruchwylio ac fe fyddwn yn eu hannog i wneud hynny."

I wybod sut i waredu â charcasau adar gwyllt marw yn gywir, edrychwch ar https://www.gov.uk/animal-by-product-categories-site-approval-hygiene-and-disposal

Gellir canfod gwybodaeth bellach ar Ffliw Adar ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://gov.wales/avian-influenza-bird-flu