Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gyrrwch yn ofalus ar ffyrdd Powys

Please drive safely

14 Tachwedd 2022

Please drive safely
Mae staff Priffyrdd Cyngor Sir Powys yn gorfod delio â nifer fawr o yrwyr yn mynd trwy oleuadau coch dros dro, yn anwybyddu arwyddion stopio ac yn gyrru'n rhy gyflym trwy waith ffordd.  Nid yn unig y mae'r math hwn o yrru'n anghyfreithlon ond mae hefyd yn golygu bod ein gweithwyr priffyrdd diwyd yn wynebu anafiadau difrifol.

Er mwyn annog gyrwyr i arafu, cadw at rybuddion traffig dros dro a pharchu staff sy'n gweithio ar ein ffyrdd, bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Wythnos Genedlaethol  Diogelwch ar y Ffyrdd rhwng 14 - 20 Tachwedd 2022.

Trwy gydol yr wythnos, bydd y cyngor yn tynnu sylw at y peryglon sy'n wynebu'r timoedd priffyrdd bob dydd, gyda staff yn rhannu eu profiadau o sefyllfaoedd peryglus sy'n deillio o yrru'n fyrbwyll.

"Mae'r timoedd priffyrdd yn gweithio'n galed iawn, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd er mwyn cynnal a chadw, trwsio a gwella miloedd o filltiroedd o ffyrdd ym Mhowys," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae'n frawychus clywed am rai o'r damweiniau fu bron â digwydd ar ffyrdd y sir oherwydd difaterwch rhai gyrwyr.  Mae'r timoedd priffyrdd angen eich help i gadw'n ddiogel, felly cofiwch yrru'n ofalus fel y gallant fynd adref at eu teuluoedd ar ddiwedd y dydd.

"Dros Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, rydym am annog pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd i ystyried diogelwch ein timoedd priffyrdd.  Gwneud eu gwaith maen nhw.  Rydym yn deall fod gwaith ffordd yn gallu bod yn rhwystredig ond nid yw hynny'n esgus dros anufuddhau rhybuddion traffig, gyrru trwy oleuadau coch neu fod yn anghwrtais i'r gweithwyr.

"Mae diogelwch ein staff yn hollbwysig a rhaid i'r arfer o yrru'n beryglus trwy waith ffordd ddod i ben."

I glywed am helyntion ein timoedd priffyrdd yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, dilynwch dudalennau cyfryngau cymdeithasol y cyngor:

Facebook

Twitter