Toglo gwelededd dewislen symudol

Teulu lleol yn ennill gwobr faethu genedlaethol fawreddog

National fostering award

14 Tachwedd 2022

National fostering award
Mae cwpwl o Bowys wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth mewn Maethu, sef anrhydedd mwyaf yn y maes maethu yn y DU, i gydnadbod eu cyfraniad aruthrol at ofal maeth.

Enillodd Karen a Danny Sherwood y wobr am Gyfraniad Arbennig gan Ofalwyr Maeth yng ngwobrau blynyddol y Rhwydwaith Maethu dydd Iau 10 Tachwedd.

Mae'r cwpwl wedi bod yn ofalwyr maeth ers dros 25 mlynedd gan gynnig cartref croesawgar a sefydlog i fabanod a phlant lleol.  Yn ôl yr enwebiad, maent yn "eiriolwyr eithriadol dros blant yn eu gofal, beth bynnag yw eu cefndir, oed neu ddiwylliant."

Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd i'w gwaith positif a chefnogol o fewn cymuned faethu Powys, gan gynnwys helpu i fentora a chynghori darpar fabwysiadwyr i'w helpu drwy'r broses.

Mae brwdfrydedd Karen a Danny wedi gadael ei ôl ar eu merch a'i theulu, ynghyd â'u hwyres a'i theulu hithau gan eu bod i gyd yn ofalwyr maeth brwd ac yn dilyn yn ôl-troed y cwpwl i gefnogi a chynnig cyfleoedd i'r plant yn eu gofal.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Sandra Davies: "Rwy wrth fy modd fod y wobr genedlaethol hon yn cydnabod  effaith bositif Karen a Danny dros y blynyddoedd ar blant yn eu gofal, at Wasanaethau Plant ac i'n teulu o ofalwyr maeth ar draws y sir."

Ychwanegodd: "Mae eu hymroddiad at blant sy'n derbyn gofal, eu hegni a'u brwdfrydedd yn neilltuol ac yn wylaidd.  Wrth ddathlu 25 mlynedd o faethu, rydym yn wirioneddol ddiolchgar iddynt am eu holl waith ac am barhau i wneud hynny."

Wrth ymhelaethau ar hyn, dywedodd Kevin Williams, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Maethu: "Llongyfarchiadau i Karen a Danny ar ennill y wobr hon.

"Bob blwyddyn mae'n fraint clywed hanes ysbrydoledig y rhai o fewn y gymuned faethu.  Mae'n braf cael rhoi sylw i'r bobl anhygoel hyn, dathlu eu cyraeddiadau a dangos ein gwerthfawrogiad iddynt.  Dylai'r enillwyr a phawb arall sy'n cynnig gofal maeth fod yn hynod falch.  Mae eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a phobl ifanc.  Dyma sylfaen y gwasanaeth gofal cymdeithasol i blant - diolch am bopeth rydych yn ei wneud."

Yn mynychu'r seremoni wobrwyo yn Birmingham oedd aelodau'r gymuned faethu o bob cwr o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.  Mae yna alw mawr am ofalwyr maeth ar draws y DU.  Daw gofalwyr maeth o bob math o gefndiroedd ac mae eu gwaith yn hanfodol i drawsnewid bywydau pobl ifanc.

I wybod mwy am ddod yn ofalwr maeth ym Mhowys, ewch i www.powys.fosterwales.gov.wales neu galwch 0800 22 30 627