Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor yn ei gwneud hi'n haws ymgeisio am swyddi gofal a chymorth

Two people talking with a hot drink

14 Tachwedd 2022

Two people talking with a hot drink
Mae Cyngor sir Powys wedi cyflwyno proses recriwtio hawdd newydd ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swydd fel Gweithiwr Ailalluogi a Chymorth Gofal.   

Os ydych chi eisiau helpu pobl Powys i fyw'n dda mewn lleoliad o'u dewis a'u galluogi i wneud yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, yna ymgeisiwch nawr trwy ddilyn ychydig o gamau syml.

Ewch i: 

  • Atebwch ychydig o gwestiynau syml
  • Uwchlwythwch eich CV neu os nad oes un gennych, rhowch ychydig o fanylion am eich hunan mewn rhai brawddegau byr
  • Cyfweliad gwarantedig

Rydym yn cynnig iwnifform AM DDIM, DBS AM DDIM, hyfforddiant AM DDIM, Cyfarpar Diogelu Personol AM DDIM, hyfforddiant gyda'r Academi Iechyd a Gofal, Cofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru wedi'i dalu, mynediad at gynllun Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, lwfans teithio cystadleuol, a chyfleoedd gwych ar gyfer dilyniant gyrfaoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Ailalluogi yw un o'r swyddi mwyaf gwerthfawr a phwysig rydym yn eu gwneud. Waeth beth yw ein hanghenion, rydyn ni eisiau deffro bob dydd yn ein gofod cyfarwydd ein hunain a gallu gwneud yr hyn sy'n bwysig i ni. Dyna beth yw hanfod ail-alluogi.  Os oes rhywbeth yn digwydd i chi sy'n golygu nad ydych yn gallu byw'n annibynnol, mae ailalluogi yn eich cefnogi i fyw'n annibynnol ac i adennill y gallu i wneud hynny eich hun.

Os oes gennych chi'r angerdd a'r sgiliau i gefnogi pobl yn eich cymuned i fyw'n dda, mewn lle o'u dewis, yna rydym am i chi ymuno â'n tîm.  Dydyn ni ddim eisiau i chi deimlo'r straen o orfod llenwi ffurflen gais hir, ar ben yr holl bethau eraill y mae'n rhaid i chi wneud bob dydd, felly rydyn ni wedi symleiddio'r broses.  Gallwch ddweud wrthym pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd mewn ychydig o gamau syml, ac os byddwch yn bodloni manyleb personol y swydd, gallwn eich dechrau'n gyflym ar y daith i wneud y gwaith ry'ch chi'n ei garu.'

Ar gyfer y rôl benodol hon, rydym am gwrdd â'r holl ymgeiswyr am gyfweliad.

Os oes angen help arnoch i wneud cais,  neu os nad oes gennych fynediad at y ffurflen gais ar-lein, cysylltwch â Joanna Williams ar 01639 846 554.

Dechreuwch eich cais heddiw ar

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu