Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Diogelwch griliau nwy

Image of a gas cooker

14 Tachwedd 2022

Image of a gas cooker
Mae defnyddwyr ym Mhowys sydd wedi'u heffeithio gan rybudd diogelwch am ddefnyddio griliau nwy ar rai ffyrnau 'range' nwy yn cael eu hannog i drefnu addasiad diogelwch am ddim gyda'r cwmni.

Mae'n rhaid i 'Glen Dimplex Home Appliances' alw ym mhob cartref sydd â ffyrnau Belling, New World a Stoves i wneud addasiad technegol am ddim fel bod y gril nwy'n ddiogel i'w ddefnyddio.

Cafwyd gwybodaeth gan y Swyddfa Diogelwch Cynnyrch yn rhybuddio defnyddwyr i beidio defnyddio'r gril nwy gyda'r drws ar gau oherwydd y risg o lefelau peryglus o garbon monocsid, gan achosi risg o anaf difrifol neu farwolaeth i'r rhai wrth ymyl.

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys yn galw ar ddefnyddwyr dan sylw i gysylltu â Glen Dimplex Home Appliances ar unwaith i drefnu apwyntiad i wneud y gwaith addasu am ddim.

Rhaid ffonio 0800 110 5728 neu e-bostio consumersupport@glendimplex.com i gofrestru i wneud y gwaith hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel: "Rwy'n annog unrhyw un sydd â'r dyfeisiau nwy hyn i drefnu i wneud y gwaith addasu hwn gyda'r cwmni a'i gwneud yn ddiogel i chi ddefnyddio'r gril nwy.

"Tan i'r gwaith hwn gael ei wneud, yna dylech ddefnyddio'r gril nwy gyda drws y gril ar agor."

Am fwy o wybodaeth, dylai ddefnyddwyr gysylltu â'r GDHA ar 0800 110 5728 neu ar y wefan: