Datblygiadau ar y gweill
Mae'r Tîm Datblygu Tai yn diweddaru'r dudalen we hon o bryd i'w gilydd gyda datblygiadau preswyl sy'n mynd i ddod neu ar y gweill. Wrth i'r prosiectau fynd yn eu blaenau, bydd mwy o fanylion a dyluniadau ar gael.
Tŷ Robert Owen, Park Lane, Y Drenewydd
Datblygiad sy'n cynnwys fflatiau heb lifft, ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf, yn darparu cyfanswm o 32 eiddo un llofft a fydd â sgôr EPC A.
Dyddiad cychwyn targed: I'w gadarnhau
Parc Brynygroes - Ystradgynlais - yn amodol ar gontract
Cynllun Bargen Becyn - sy'n darparu 4 cartref fforddiadwy newydd
Mae Cyngor Sir Powys yn prynu, yn amodol ar gontract, pedwar tŷ newydd ar gyfer rhentu cymdeithasol yn Ystradgynlais. Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu fel rhan o'r opsiwn Cynllun Bargen Becyn gyda datblygwr, er mwyn cynyddu'r nifer o gartrefi fforddiadwy, diogel, cymdeithasol y gallwn eu cynnig i bobl ym Mhowys.
Mae Brynygroes, Ystradgynlais yn cynnwys:
- 4 Rhif x tŷ dwy ystafell wely
Bydd cyfle hefyd i brynu a bod yn berchen ar gartrefi newydd ar y safle drwy'r farchnad agored. https://www.morganconstruction.wales/projects/