Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffosffadau yn atal datblygiad yn ne-ddwyrain Powys

Mae datblygiad preswyl yn ardal dyffryn Gwy ac Wysg yn gyfyngedig ar hyn o bryd oherwydd bod mwy o ffosffadau yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Gwy ac Wysg. Mae afon Gwy i gyd wedi'i dynodi'n SoDdGA a dyma'r afon ACA fwyaf yng Nghymru.

Mae'r afon yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid fel eog yr Iwerydd a chimwch yr afon crafanc wen. Mae dalgylchoedd afonydd Gwy ac Wysg yn cwmpasu'r rhan fwyaf o dde-ddwyrain Powys gan gynnwys rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae hyn yn golygu nad ydym ar hyn o bryd yn gallu symud ymlaen gyda datblygiadau tai fforddiadwy o fewn y dalgylchoedd hyn hyd nes y byddwn yn derbyn arweiniad clir gan yr Awdurdod Cynllunio. Bydd diweddariadau pellach gan y Tîm Datblygu Tai yn cael eu darparu yma.

Mae'r Tîm Datblygu Tai wedi nodi tir yn ardal de Powys y gellir ei ddatblygu yn y dyfodol, cyn belled ag y bo angen yno am dai ac yn amodol ar gymeradwyaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am ffosffadau ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

Cyfyngiadau ffosfforws ar drwyddedau amgylcheddol ar gyfer rhyddhau gwaith trin dŵr gwastraff

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu