Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol - rydym am gael eich barn
28 Tachwedd 2022
Mae'r weledigaeth yn syml ond ni fydd ei chyflawni yn hawdd a bydd yn sicr o herio'r cyngor sir mewn mwy o ffyrdd nag erioed o'r blaen.
"Mae'r cabinet wedi bod yn trafod y weledigaeth ers yr haf, dyma fydd sylfaen y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol, y cynllun pwysicaf i'r cyngor sir am y pum mlynedd nesaf," meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor.
"Ond mae'n rhaid i'r weledigaeth i fod yn fwy na datganiad brandio y gellir ei ysgrifennu ar ochr cerbyd cyngor - mae'n ymrwymiad i gymunedau a phobl Powys, ac rydym am wybod beth yw eich barn chi.
"Beth mae'r datganiad Cryfach Tecach Gwyrddach yn ei olygu?
Cryfach - Byddwn yn dod yn sir sy'n llwyddo gyda'i gilydd, gyda chymunedau a phobl â chysylltiadau da yn gymdeithasol, ac sy'n gadarn yn bersonol ac yn economaidd
Tecach - Byddwn yn Gyngor agored, sy'n cael ei redeg yn dda, lle mae lleisiau pobl yn cael eu clywed ac yn helpu i lywio ein gwaith a'n blaenoriaethau, gyda mynediad tecach, mwy cyfartal at wasanaethau a chyfleoedd. Byddwn yn gweithio i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb i gefnogi lles pobl.
Gwyrddach - Rydym am sicrhau dyfodol gwyrddach i Bowys, lle mae ein lles wedi'i chysylltu â'r byd naturiol, ac mae ein hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth wrth wraidd popeth a wnawn.
"Yn atgyfnerthu'r tri amcan mae dull a fydd yn gweld yr hinsawdd, natur a chydraddoldeb yn llinyn allweddol trwy bopeth a wnawn fel sefydliad, gan gryfhau'r broses o wneud penderfyniadau sefydliadol trwy ddeall y materion mwyaf arwyddocaol sy'n effeithio ar Bowys.
"Mae gennym syniad clir ynglŷn â'r hyn y mae ein gweledigaeth yn ei olygu ond ni allwn weithredu ar ein pennau ein hunain mae angen cefnogaeth ein cymunedau. Rhowch eich barn ar ein gweledigaeth, ydy hi'n iawn i Bowys, a allwn ei chryfhau, ydyn ni wedi methu elfennau allweddol, mae angen eich barn arnom," ychwanegodd y ddau.
Sut i gymryd rhan:
Gadewch eich adborth ar-lein trwy ein harolwg yn y fan yma: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cynllun-corfforaethol
neu lawrlwythwch a llenwch yr arolwg a'i e-bostio i haveyoursay@powys.gov.uk neu gallwch ei adael yn eich llyfrgell leol.
Dim ond un funud i'w sbario? Rhannwch eich syniadau gyda ni yn y fan yma: https://padlet.com/haveyoursaypowys/CIP_cym
Y dyddiad cau i gyflwyno eich adborth i ni yw 23 Rhagfyr 2022.