Toglo gwelededd dewislen symudol

Dwy flynedd o garchar i fasnachwr twyllodrus

Image of a gavel

28 Tachwedd 2022

Image of a gavel
Mae masnachwr twyllodrus a dwyllodd preswylydd o Bowys sydd wedi ymddeol i dalu £60,000 am waith adeiladu gwael ac anghyflawn, wedi cael dedfryd o ddwy flynedd yn y carchar.

Cafodd Leslie James Smith o Pershore, Swydd Gaerwrangon ei erlyn gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys ar ôl gwneud y gwaith ar eiddo yn Felindre.

Mewn gwrandawiad cynt yn Llys Ynadon Llandrindod, cafodd Smith a blediodd yn euog i ddau drosedd dan Reoliadau Gwarchod Defnyddwyr Rhag Masnachu Anheg 2008 a Deddf Twyll 2006, ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar a'i orchymyn i dalu gordal i'r dioddefwr o £156 gan Lys y Goron Merthur Tudful.

Yn ystod ymchwiliad gan swyddogion Safonau Masnach rhwng 8 Ebrill a 8 Gorffennaf y llynedd, cafodd Smith ei dalu llawer gormod am waith adeiladu ac yna  methu gorffen y gwaith i safon addas.

Roedd Smith hefyd wedi cyflawni twyll trwy wneud sylwadau ffug, sef ei enw.  Yn ôl swyddogion Safonau Masnach, roedd Smith wedi dweud celwydd am brynu cyflenwadau pan nad oedd wedi gwneud hynny a hefyd wedi honni bod costau cyflenwadau wedi codi a'i fod angen arian ychwanegol pan roedd y cyflenwadau hynny eisoes wedi'u prynu.

Roedd Smith hefyd wedi gofyn am arian ychwanegol i helpu gyda'i waith i gwsmeriaid eraill gyda'r bwriad o wneud elw i'w hun.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel: "Mae'r achos hwn yn anfon neges glir na wnawn oddef unrhyw arferion masnachu o'r fath.

"Dylai'r achos hwn atgoffa ein trigolion i fod yn wyliadwrus o'r troseddau a'r sgamiau hyn er mwyn peidio syrthio i dwyll masnachwr twyllodrus.  Rwy'n annog trigolion i wneud ymchwil ar fusnes cyn mynd i gytundeb ac i fod yn ofalus wrth dalu arian o flaen llaw.

"Am unrhyw waith ar gartref rhywun sydd werth dros £42, mae'n rhaid i fasnachwyr yn ôl y gyfraith roi hawl i ganslo.  Mae hyn yn rhoi 14 diwrnod i rywun ganslo cytundeb.

"Dan y rheolau, mae'n rhaid i fasnachwyr ddangos diwydrwydd proffesiynol yn eu gwaith.  Os bydd y cyngor yn derbyn adroddiadau o grefftwaith gwael iawn neu nad yw'r gwaith yn ôl y disgrifiad, gall hyn arwain at ymchwiliad gan ein tîm Safonau Masnach."