Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwaith i ddechrau ar ail gam Llwybr Teithio Llesol Treowen

Image of a cycle path sign

1 Rhagfyr 2022

Image of a cycle path sign
Bydd gwaith yn dechrau dydd Llun 5 Rhagfyr ar ail gam llwybr teithio llesol Treowen, Y Drenewydd.

Yn dilyn ymgynghoriadau blaenorol ar fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, bydd y gwaith yn gwella'r cyfleusterau cerdded a seiclo ar Heol Treowen o Ysgol Gynradd Treowen i lawr tua Ffordd Ceri.

Bydd y palmant yn cael ei ledu er mwyn creu lle i feicwyr a cherddwyr ei ddefnyddio.  Bydd wyneb y llwybr presennol yn cael ei wella er mwyn sicrhau diogelwch pawb, yn arbennig teuluoedd a disgyblion sy'n mynd yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru, dyma ail gam cynllun ehangach a fydd yn cysylltu â llwybrau teithio llesol eraill yn y dref.

"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru'n genedl sy'n cerdded ac yn seiclo," dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Yn y bôn, mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud ein gorau glas i'w wneud yn bosibl i bawb gwneud teithiau byr i'r gwaith, ysgol neu'r siopau lleol trwy gerdded neu seiclo.

"Yn dilyn ymgynghori a datblygu mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, mae'n gyffrous gweld cynllun teithio llesol arall yn Y Drenewydd yn dwyn ffrwyth."