Toglo gwelededd dewislen symudol

Anogir rhieni i roi'r gorau i ddefnyddio clustogau hunan-fwydo

Image of a baby using a self-feeding pillow

2 Rhagfyr 2022

Image of a baby using a self-feeding pillow
Mae rhieni ym Mhowys sydd â chlustogau hunan-fwydo babanod yn cael eu hannog gan y cyngor sir i roi'r gorau i'w defnyddio a chael gwared arnynt yn ddiogel.

Mae'r Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau wedi cyhoeddi rhybudd diogelwch brys gan fod clustogau/offeryn i helpu i hunan-fwydo yn peri risg o niwed difrifol neu farwolaeth o dagu neu niwmonia allsugno.

Nawr mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys yn annog rhieni ym Mhowys i roi'r gorau i'w defnyddio ar unwaith a'u gwaredu'n ddiogel.

Mae busnesau yn y sir hefyd yn cael eu hysbysu gan Safonau Masnach i dynnu'r cynhyrchion hyn o'r farchnad ar unwaith gan nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion diogelwch o dan Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Diogel: "Mae cynhyrchion clustogau hunan-fwydo babanod wedi'u llunio i fod ynghlwm wrth botel fel y gellir gosod y baban ar ei gefn i hunan-fwydo heb gymorth yr un sy'n gofalu amdano'n dal y botel ac yn rheoli llif y llaeth.

"Mae hyn yn anghyson â chanllawiau'r GIG mewn perthynas â bwydo gyda photel yn ddiogel.

"Pan fydd yn cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd, hyd yn oed tra o dan oruchwyliaeth yr unigolyn sy'n gofalu am y baban, gallai arwain at niwed difrifol, uniongyrchol neu farwolaeth oherwydd tagu neu niwmonia allsugno.

"Mae'r Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau wedi nodi y bydd y categori hwn o gynhyrchion bob amser yn beryglus oherwydd eu dyluniad a'r defnydd a fwriadwyd ac ni ellir byth eu gwneud yn ddiogel.

"Byddwn yn annog rhieni ym Mhowys sydd â'r cynhyrchion hyn i roi'r gorau i'w defnyddio ar unwaith a chael gwared arnynt yn ddiogel. 

"Mae'n rhaid i fusnesau hefyd dynnu'r cynhyrchion hyn oddi ar y farchnad a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan gyfraith diogelwch cynnyrch.

"Bydd ein Gwasanaeth Safonau Masnach yn cymryd camau priodol yn erbyn busnesau sy'n gwerthu clustogau hunan-fwydo babanod gan nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion diogelwch a nodir yn Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol, 2005."