Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi Biniau Sbwriel

Hanes y Fersiwn

Fersiwn 1

Newidiadau: Ddim yn berthnasol

Cymeradwywyd gan: Y Cyng. Jackie Charlton, Deiliad y Portffolio ar gyfer Powys Wyrddach

Dyddiad Mabwysiadu: 4ydd Tachwedd 2022

 

1.   Nodau ac amcanion

1.1. Darparu gwasanaethau glanhau'r strydoedd effeithlon, a ategir gan ddefnydd priodol o finiau sbwriel, a dulliau ataliol eraill, i sicrhau amgylchedd glân.

1.2. Sicrhau darpariaeth deg ac angenrheidiol o finiau sbwriel ar y strydoedd, a bodloni angen a nodwyd.

2.   Cefndir

2.1. Does dim dyletswydd statudol i'r Cyngor ddarparu biniau sbwriel.  

2.2. Y ddyletswydd statudol o safbwynt Cyngor Sir Powys yw cadw 'tir perthnasol' yn rhydd rhag sbwriel (mor bell ag sy'n ymarferol). Mae hyn yn berthnasol yn unig i dir sydd yn fan agored cyhoeddus, o dan ein rheolaeth uniongyrchol (h.y. sy'n eiddo i ac yn cael ei redeg gan CSP) a phriffyrdd yr ydym yn gyfrifol amdanynt (h.y. y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig). 

3.   Asesiad o anghenion

3.1. Dylid nodi nad yw biniau sbwriel o reidrwydd yn datrys problem gyda sbwriel, ac mewn nifer o achosion, gall arwain at sbwriel ychwanegol o gwmpas y biniau, a hyd yn oed tipio anghyfreithlon. Hefyd maent yn cael eu cam-ddefnyddio gan fasnachwyr a phreswylwyr sy'n eu defnyddio'n anghyfreithlon i gael gwared ar wastraff ychwanegol.

3.2. Cyfyngedig yw gallu'r Cyngor i ddarparu biniau sbwriel. Er mwyn rheoli disgwyliadau, dylid cymryd yn ganiataol y byddwn yn gosod bin sbwriel yn unig ar ôl monitro a glanhau, ar ôl addysgu a gorfodi, a lle dangosir bod angen gwirioneddol yn bodoli. 

4.   Manyleb Biniau Sbwriel 

4.1. O safbwynt y math o fin fydd yn cael ei osod, bydd unrhyw finiau newydd:

  • Yn cael eu gosod ar y llawr, yn blwm â'r llawr, gyda chyfaint o o leiaf 90 L
  • Yn gallu gwrthsefyll tân, dŵr a chyrydu
  • Yn derbyn sach sbwriel mewnol safonol [120 L plastig] i'w gwagio â llaw
  • Yn ddu eu lliw allanol gyda logo'r cyngor, stribyn llachar, arwyddion dwyieithog a brandio cenedlaethol
  • Â gorchudd/caead
  • System cloi ac allwedd cyffredin
  • Man diffodd sigarennau integredig
  • Opsiwn ailgylchu, lle bo'n ymarferol
  • Integreiddio i'n systemau TGCh

5.   Lleoliadau biniau sbwriel

5.1. Darperir biniau sbwriel yn unig ar dir perthnasol sydd o dan reolaeth uniongyrchol y Cyngor.

5.2 . Byddwn fel arfer yn blaenoriaethu'r mannau canlynol o ran gosod biniau sbwriel/gosod biniau newydd:

  • Canol y prif drefi hanesyddol
  • Mannau picnic (o dan ein rheolaeth uniongyrchol)
  • Mynedfeydd i barciau (sy'n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan y Cyngor)
  • Ardaloedd yn ymyl mannau gwerthu bwyd brys a bwyd i fynd
  • Hybiau cludiant cyhoeddus a meysydd parcio (o dan ein rheolaeth uniongyrchol)

5.3.      Defnyddir arf matrics ('asesu ar gyfer bin newydd') i benderfynu a ddylid gosod bin sbwriel. Fel y nodir yn y matrics, ni fyddwn fel arfer yn ystyried yr ardaloedd canlynol fel rhai sy'n addas ar gyfer biniau sbwriel:

  • Ardaloedd preswyl yn unig - oni fydd un o'r rhesymau uchod yn berthnasol.
  • Cilfannau ar ffyrdd digyfyngiad neu gefnffyrdd.
  • Darnau o dir nad ydym yn gyfrifol am eu cynnal a'u cadw e.e. meysydd chwarae ysgolion, asedau cynghorau cymuned, llwybrau camlesi, cyfleusterau chwaraeon, tir amwynder cymdeithasau tai, meysydd parcio preswylwyr.
  • Ardaloedd lle nad yw'n bosibl parcio wagen godi 7.5 tunnell â chawell o fewn pellter cerdded o 100m. 
  • Unrhyw le lle mae angen i weithwyr gerdded pellter hir neu ddefnyddio grisiau neu lwybrau anwastad neu weithio o fewn 1.5 m i ddyfrffordd, rheilffordd, cefnffordd, ffordd ddigyfyngiad, cyflenwad trydan byw neu berygl arall.
  • Ardaloedd hynod wledig, lle nid yw'n rhesymol ymarferol eu gwasanaethu'n aml.
  • Safleoedd sy'n rhwystro'r briffordd, yn effeithio ar lain welededd cyffyrdd, neu sy'n atal llif cerddwyr - gan dalu sylw penodol at anghenion pobl ag anableddau, sy'n defnyddio cadair olwyn a phramiau. 
  • Mae'n rhaid cadw llwybr troed o leiaf 1.5m o led. Hefyd mae angen inni ystyried ein dyletswydd statudol i gael gwared ar sbwriel a chadw ardaloedd yn hygyrch ar gyfer peiriannau [mecanyddol] sy'n ysgubo'r strydoedd. 

6.   Monitro biniau sbwriel

6.1. Bydd biniau sbwriel yn cael eu monitro'n rheolaidd, ac efallai y byddant yn cael eu tynnu i ffwrdd os nad ydynt yn cael eu defnyddio neu os maent yn cael eu cam-ddefnyddio'n rheolaidd.

6.2. Byddai cam-ddefnydd yn cynnwys cael gwared ar wastraff cartref neu fasnachol amhriodol neu unrhyw safleoedd sydd yn destun llosgi bwriadol, graffiti, gosod posteri'n anghyfreithlon, neu fandaliaeth.

7.   Biniau sbwriel sy'n eiddo i neu'n cael eu gosod gan Drydydd Parti

7.1. Ni fydd y Cyngor yn gwasanaethu unrhyw finiau sy'n cael eu gosod gan drydydd parti, oni fydd cytundeb yn bodoli i wneud hynny.  

7.2. Bydd angen adolygu'r penderfyniad i wasanaethu unrhyw finiau felly o safbwynt biniau a wasanaethwyd hanesyddol yn unol â'r arf matrics a nodir dan Adran 5.3

POLISI BINIAU SBWRIEL (PDF) [237KB]