Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwblhau arolwg addysg ardal dalgylch Crughywel

Image of a primary school classroom

8 Rhagfyr 2022

Image of a primary school classroom
Mae'r cyngor sir wedi dweud fod arolwg ar addysg mewn ardal dalgylch yn ne Powys wedi cael ei gwblhau.

Cynhaliodd Cyngor Sir Powys arolwg ardal ar addysg yn nalgylch Crughywel i ddynodi sut fyddai addysg yn cael ei gyflwyno yn y dalgylch yn y dyfodol.

I helpu gyda'r arolwg, roedd y cyngor wedi llunio holiadur cychwynnol fel y gallai rhieni, staff ysgol, penaethiaid a llywodraethwyr gyfrannu eu syniadau.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r arolwg, cyngor y swyddogion yw:

  • Gweithredu'r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet blaenorol i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr o'r 31 Awst 2023 gan nad yw'r amgylchiadau wedi newid ers penderfyniad y Cabinet blaenorol ar 8 Mawrth 2022, sef y byddai gweithredu yn "gwbl amhriodol".
  • Cadw'r ddarpariaeth gynradd yn Ysgol G.G. Crughywel, Ysgol G.G. Llangynidr ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangatwg a chadw'r ddarpariaeth uwchradd yn Ysgol Uwchradd Crughywel.
  • Cefnogi dalgylch Crughywel i ddyfnhau eu cydweithrediad fel y nodir yn eu hymatebion i'r ymarferiad ymgysylltu.
  • Cefnogi Ysgol Uwchradd Crughywel ac Ysgol G.G. Crughywel i archwilio'r opsiwn o benodi pennaeth ar y cyd a fyddai'n darparu'r sail ar gyfer ystyried model ysgol pob oed yn ddiweddarach.
  • Cynnal gwaith pellach ar ddalgylch Crughywel, fel yr amlinellir yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan gynnwys trafodaethau gyda Mudiad Meithrin i archwilio sefydlu Cylch Ti a Fi/Cylch Meithrin i gychwyn. Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaethau gydag awdurdodau cyfagos.

Bydd yr arolwg a chanfyddiadau'r holiadur yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar ddydd Mawrth, 20 Rhagfyr a gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r cyngor ar ddydd Mercher, 14 Rhagfyr.

Dywedodd y Cyng. Pete Roberts, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet i ohirio'r cynnig arfaethedig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr gan 12 mis hyd at fis Awst 2023 i ganiatau arolwg ardal llawn ar ddalgylch Crughywel i ddynodi sut y bydd addysg yn cael ei gyflwyno yn y dalgylch yn y dyfodol.

"Fel rhan o'r arolwg, mynychodd llywodraethwyr ac athrawon o'r dalgylch ddigwyddiad gweithdy er mwyn caniatáu iddynt rannu eu gweledigaeth ar gyfer trawsnewid addysg yn y dalgylch a lluniwyd holiadur i alluogi'r gymuned ehangach i ymgysylltu gyda'r cyngor.

"Mae'r arolwg hwn wedi cael ei gwblhau a hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'r holiadur ac a fynychodd y digwyddiadau gweithdy.

"Mae'r gwaith hwn wedi caniatáu ystyriaeth i syniadau yn seiliedig ar y gymuned o ran sut i wella darpariaeth addysgol yn y dalgylch yn y dyfodol ochr yn ochr â'r rheini a awgrymwyd gan swyddogion cyn ymgysylltu ar ffyrdd a ffafrir o symud ymlaen.

"Yn anffodus, er gwaethaf yr arolwg cynhwysfawr, cyngor y swyddogion yw na ddaeth unrhyw gynigion na gwybodaeth newydd i law yn ystod yr ymgysylltu sy'n awgrymu nad yw'r achos dros gau bellach yn ddilys, ac felly yn unol â'r gyfraith, rydym wedi ein rhwymo i weithredu wrth gau ysgol Llanbedr yn y ffurf a gytunwyd gan y weinyddiaeth flaenorol.

"Bydd y papurau nawr yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau a bydd eu safbwyntiau, ynghyd â barn yr aelodau lleol, yn cael eu hychwanegu at ganfyddiadau'r arolwg, yr ymatebion i'r holiadur, a'r cyngor oddi wrth swyddogion i'w hystyried gan y Cabinet cyn iddo wneud ei benderfyniad."