Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwblhau astudiaeth ddichonoldeb ar addysg Gymraeg

Image of a primary school classroom

8 Rhagfyr 2022

Image of a primary school classroom
Cadarnhaodd y cyngor fod gwaith i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu addysg Gymraeg mewn lleoliad newydd yng nghanol Powys wedi dod i ben.

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu addysg Gymraeg yn adeilad presennol Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydeithon yn Nolau ger Llandrindod.

Elfen bwysig o'r gwaith oedd ymgynghori â rhieni'r ardal i gael eu barn nhw ar y posibilrwydd o gael addysg Gymraeg yn Nolau, ynghyd â chael astudiaeth ddichonoldeb.

Yn seiliedig ar y canfyddiadau, cyngor swyddogion yw nad yw sefydlu addysg Gymraeg yn Nolau yn ymarferol.

Mae'r cyngor wedi ymrwymo at wella mynediad at addysg Gymraeg, ond mynegwyd pryderon nad Dolau oedd y lle iawn yn strategol i sicrhau twf addysg Gymraeg gan fod yr ysgol mor fach.

Mae rhieni sydd am weld eu plant yn derbyn addysg Gymraeg yn yr ardal yn gallu eu hanfon i Ysgol Trefonnen neu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr Gwy, a bydd y disgyblion hynny'n derbyn cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol Gymraeg agosaf.

Bydd y Fforwm Addysg Gymraeg yn trafod yr astudiaeth ddichonoldeb a chanfyddiadau'r holiadur ddydd Llun 12 Rhagfyr ac ym Mhwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau ddydd Mercher 14 Rhagfyr cyn mynd gerbron y Cabinet ar ddydd Mawrth 20 Rhagfyr.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Cyn yr etholiad fe wnes i alw am ddadansoddiad o'r posibilrwydd o ddefnyddio safle Dolau fel ysgol Gymraeg newydd yn Nwyrain Maesyfed.

"Ar ôl yr etholiad, mae'r Cabinet newydd wedi gohirio'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydeithon am 12 mis tan 31 Awst 2023 er mwyn gallu trafod y cynnig yn drwyadl ac i beidio colli cyfle i ddatblygu'r iaith.

"Erbyn hyn mae'r gwaith hwn wedi dod i ben a hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd i'r holiadur.

"Bydd y Cabinet nawr yn trafod canfyddiadau'r astudiaeth a'r atebion i'r holiadur a chyngor swyddogion, yn ogystal â sylwadau'r Fforwm Addysg Gymraeg a'r Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau cyn dod i benderfyniad."