Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cais i drigolion helpu'r cyngor i ddod o hyd i bobl sy'n cysgu ar y stryd ym Mhowys

Image of a person sleeping rough

9 Rhagfyr 2022

Image of a person sleeping rough
Mae cais wedi cael ei wneud gan y cyngor am help gan drigolion Powys i ddod o hyd i unrhyw un a allai fod yn cysgu ar y stryd yn y sir fel y gellir rhoi cymorth a chefnogaeth iddynt.

Os yw aelodau o'r cyhoedd yn dod ar draws unrhyw un sy'n cysgu ar y stryd gallant roi gwybod i Gyngor Sir Powys drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Tai ar 01597 827464 neu trwy anfon e-bost at housing@powys.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Gyda'r tywydd yn oeri, rydym yn gofyn i drigolion gadw golwg am unrhyw un sy'n cysgu ar y stryd yn y sir.

"Er mai cysgu ar y stryd yw'r math mwyaf difrifol o ddigartrefedd ac mae'n rhaid ei osgoi pryd bynnag y bo modd, mae'n arbennig o bwysig i fod yn ymwybodol ohono pan fydd y tywydd yn oeri.

"Bob tro y byddwn yn cael gwybod am rywun sy'n cysgu ar y stryd byddwn yn ymchwilio ac yn ceisio gweithio gyda'r unigolyn i ddatrys ei ddigartrefedd, gan gynnwys lle bo modd, dod o hyd i lety dros dro."

I'r rhai sy'n teimlo bod eu sefyllfa dai yn fregus, neu i roi gwybod am achos o gysgu ar y stryd cysylltwch â Gwasanaeth Tai y cyngor ar 01597 827464 neu e-bostiwch housing@powys.gov.uk