Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan Addysg Cychwyn Newydd yn derbyn achrediad am ddiogelwch ar-lein

Image of a young person using a laptop

9 Rhagfyr 2022

Image of a young person using a laptop
Mae lleoliad addysg yn ne Powys wedi arddangos ei ymroddiad i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein drwy gwblhau rhaglen hyfforddi diogelwch ar-lein gynhwysfawr.

Mae Canolfan Addysg Cychwyn Newydd, sef Uned Cyfeirio Disgyblion newydd Cyngor Sir Powys yn Aberhonddu, wedi derbyn Achrediad Cenedlaethol Ardystiedig i Ysgolion am Ddiogelwch Ar-lein a hynny am ei hymagwedd ar draws gymuned yr ysgol wrth ddiogelu plant yn y byd ar-lein.

Mae Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol yn ddarparwr hyfforddiant digidol aml-wobrwyedig ag adnoddau sylweddol ar gyfer diogelwch ar-lein.

Mae ei gyrsiau achrededig Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac adnoddau addysgiadol, yn cefnogi ysgolion DU wrth addysgu am ddiogelwch ar-lein i'r gymuned ysgol i gyd, gan gynnwys yr holl uwch arweinwyr, athrawon, holl staff yr ysgol a'r rhieni - am sut i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd fod Canolfan Addysg Cychwyn Newydd wedi derbyn y wobr hon. Mae'n gydnabyddiaeth o'i hymroddiad wrth ddiogelu llesiant dysgwyr yn y byd ar-lein.

"Rydym ni'n dibynnu ar dechnoleg i ddysgu, gweithio a chyfathrebu â'r rheini sy'n bwysig i ni, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n cydweithio i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i'n dysgwyr."

Dywedodd James Southworth, cyd-sylfaenydd Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol, mae Canolfan Addysg Cychwyn Newydd wedi dangos ei hymroddiad cryf wrth weithredu ymagwedd effeithiol ar draws yr ysgol tuag at ddiogelwch ar-lein.

"Gall fod yn gynyddol anodd i ysgolion a rhieni fod ar y blaen o ran bygythiadau ar-lein a sicrhau fod plant a staff yn cael eu diogelu rhag deunydd ar-lein a allai fod yn niweidiol ac yn anaddas. Rydym yn arfogi ysgolion â'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall peryglon ar-lein ac i ymateb i unrhyw broblemau."