Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Lansio cyfeirlyfr mannau cynnes

Image of a house and a stack of coins

9 Rhagfyr 2022

Image of a house and a stack of coins
Mae cyfeirlyfr sy'n rhestru llefydd a all gynnig croeso cynnes i bobl Powys y gaeaf hwn wedi cael ei lansio gan y cyngor sir.

Mae Cyfeirlyfr Mannau Cynnes Cyngor Sir Powys yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, eglwysi a llefydd eraill sy'n agor eu drysau i unrhyw un sydd eu hangen.

Mae'r cyngor wedi cydweithio gyda'i bartneriaid yn ogystal â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill ar draws y sir i ddarparu'r rhwydwaith hwn o fannau cynnes, sy'n gallu cynnig croeso cynnes i bobl Powys y gaeaf hwn a chyfle i gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau tra'n cadw'n gynnes.

Gellir dod o hyd i'r cyfeirlyfr drwy'r ddolen hon Hwb Costau Byw- hwb gwybodaeth costau byw y cyngor. Bydd y cyfeirlyfr mannau cynnes ar gael yn Gymraeg yn fuan.

Lansiwyd y ganolfan wybodaeth fis Hydref ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth mewn un lle i sicrhau bod pobl yn gwybod pa help sydd eisoes ar gael a sut i gael hyd iddo.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae'r argyfwng costau byw yn y DU yn rhoi pwysau na welwyd mo'i tebyg o'r blaen ar bobl, a byddant yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch pryd a beth y maen nhw'n ei fwyta, beth allant eu gwneud mewn bywyd, a phryd y byddant yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi.

"Gall y rhwydwaith man cynnes gynnig croeso cynnes i bobl Powys y gaeaf hwn a chyfle i gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau a chadw'n gynnes ar yr un pryd.

"Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau hynny sydd wedi camu ymlaen i ddarparu man cynnes y gaeaf hwn.  Byddant yn gwneud gwahaniaeth bositif i'n cymunedau ac yn helpu pobl Powys yn ystod yr argyfwng hwn."

Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill ym Mhowys sy'n barod i ddarparu man cynnes lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb drwy ymweld â Hwb Costau Byw a chlicio Creu mannau cynnes i Bowys.