Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Sesiynau galw heibio Cysylltu Bywydau

Image of woman with a vulnerable man

9 Rhagfyr 2022

Image of woman with a vulnerable man
Bydd tair sesiwn galw heibio yn cael eu cynnal i ddod o hyd i ofalwyr newydd sy'n gallu cefnogi oedolion sy'n agored i niwed i fyw bywydau ffyniannus ac annibynnol.

Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am bobl yn y sir sydd ag ystafell sbâr ac sydd â diddordeb mewn gofalu i ddod yn ofalwyr Cysylltu Bywydau.

Gwasanaeth Cysylltu Bywydau y cyngor, sy'n rhoi cyfle i oedolion bregus gael cymorth a chyfle i ddatblygu eu hannibyniaeth, sydd wedi trefnu'r sesiynau galw heibio hyn.

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal fel a ganlyn:

  • Tesco, Y Trallwng: Dydd Llun 19 Rhagfyr - 10am i 3pm
  • Morrisons, Y Drenewydd: Dydd Gwener 13 Ionawr 2023 - 10am i 3pm
  • Tesco, Llandrindod: Dydd Mercher 18 Ionawr 2023 - 10am i 3pm

Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Rwy'n credu mai Cysylltu Bywydau yw un o'n prosiectau mwyaf arloesol ac ysbrydoledig, gan ddod â phobl sydd angen ychydig o gymorth i fyw'n annibynnol ynghyd â phobl sydd â lle yn eu cartrefi ac amser a chymorth i'w cynnig.

"Mae pobl sy'n byw neu'n aros gyda gofalwyr Cysylltu Bywydau yn byw'n annibynnol ac yn gallu dewis sut y maen nhw eisiau byw, mewn cartrefi go iawn, gyda chymorth i fyw eu bywydau gorau.  Gallu byw ein bywyd gorau yw'r hyn ry'n ni eisiau i bawb ym Mhowys.

"Rydym yn chwilio am bobl â lle yn eu cartrefi a'r gallu i gynnig gofal i bobl na all bellach fyw'n annibynnol heb gymorth.

"Gall gofalwyr Cysylltu Bywydau ddarparu cartrefi tymor hir, gwyliau byr neu gymorth sesiynol, yn dibynnu ar eu gallu a'u dewis - mae pob un o'r rhain yn werthfawr ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn derbyn cymorth a hyfforddiant parhaus ynghyd â lwfans rheolaidd am eu gwaith.

"Mae'r rôl fel gofalwr Cysylltu Bywydau yn un sy'n rhoi boddhad mawr, gan helpu pobl i ffynnu. Maen nhw hefyd yn dod o bob math o gefndiroedd ond yn rhannu'r un boddhad o fod yn rhan o lwyddiant pobl wrth fyw eu bywydau gorau.

"Mae'r sesiynau galw heibio hyn yn gyfle i ddarganfod mwy am y gwasanaeth Cysylltu Bywydau. Os ydych chi neu rywun ry'ch chi'n ei adnabod a fyddai â diddordeb, dewch i siarad â ni."

Os hoffech chi wybod mwy, cysylltwch â'r tîm Cysylltu Bywydau drwy anfon e-bost at shared.lives@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827247.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu