Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol - rydym am gael eich barn

Stronger, fairer, greener

12 Rhagfyr 2022

Stronger, fairer, greener
Caiff preswylwyr Powys eu hatgoffa mai dim ond rhai dyddiau sydd ganddynt i gynnig sylwadau ar y weledigaeth newydd ar gyfer y dyfodol - Cryfach Tecach Gwyrddach.

Mae'r weledigaeth yn syml ond ni fydd ei chyflawni yn hawdd a bydd yn sicr o herio'r cyngor sir mewn mwy o ffyrdd nag erioed o'r blaen.

"Mae'r cabinet wedi bod yn trafod y weledigaeth ers yr haf, dyma fydd sylfaen y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol, y cynllun pwysicaf i'r cyngor sir am y pum mlynedd nesaf," meddai'r  Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor.

"Ond mae'n rhaid i'r weledigaeth i fod yn fwy na datganiad brandio y gellir ei ysgrifennu ar ochr cerbyd cyngor - mae'n ymrwymiad i gymunedau a phobl Powys, ac rydym am wybod beth yw eich barn chi.

Bydd ymgysylltiad â'r strategaeth, a gafodd ei chyflwyno i'r cyngor llawn ddydd Iau, yn rhedeg tan ddydd Gwener 23 Rhagfyr, 2022.

Sut i gymryd rhan:

Gadewch eich adborth ar-lein trwy ein harolwg yn y fan yma: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-cynllun-corfforaethol

neu lawrlwythwch a llenwch yr arolwg a'i e-bostio i haveyoursay@powys.gov.uk  neu gallwch ei adael yn eich llyfrgell leol.

Dim ond un funud i'w sbario? Rhannwch eich syniadau gyda ni yn y fan yma: https://padlet.com/haveyoursaypowys/CIP_cym