Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Casgliadau ailgylchu a sbwriel dros y Nadolig

Image of recycling bins with a snowy background

13 Rhagfyr 2022

Image of recycling bins with a snowy background
Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn symud ymlaen ddiwrnod yn ystod wythnos y Nadolig, ond byddant yn digwydd fel yr arfer dros ŵyl banc y Flwyddyn Newydd.

Eleni, bydd modd i'r criwiau fwynhau Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan gyda'u teuluoedd a'u cyfeillion, gan ddychwelyd i'r gwaith ddydd Mawrth 27 Rhagfyr. Fe fydd y casgliadau gwastraff ac ailgylchu i gyd yn symud ymlaen un diwrnod, gyda'r criwiau'n gweithio ar ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr er mwyn cwblhau rowndiau'r wythnos.

Bydd casgliadau yn digwydd yn ôl yr arfer dros wyliau banc y Flwyddyn Newydd.

Wythnos y Nadolig

Diwrnod casglu arferol                            Diwrnod casglu Diwygiedig
Dydd Llun 26 Rhagfyr (gŵyl banc)             Dydd Mawrth 27 Rhagfyr
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr (gŵyl banc)       Mercher 28 Rhagfyr
Mercher 28 Rhagfyr                                    Iau 29 Rhagfyr
Dydd Iau 29 Rhagfyr                                   Gwener 30 Rhagfyr
Gwener 30 Rhagfyr                                     Sadwrn 31 Rhagfyr

Wythnos y Flwyddyn Newydd

Diwrnod casglu arferol                            Diwrnod casglu Diwygiedig
Dydd Llun 2 Ionawr (gŵyl banc)                 Dim newid
Dydd Mawrth 3 Ionawr                               Dim newid
Dydd Mercher 4 Ionawr                              Dim newid
Dydd Iau 5 Ionawr                                       Dim newid
Dydd Gwener 6 Ionawr                               Dim newid

Bydd pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gau Ddydd Nadolig (25 Rhagfyr), Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr) a Dydd Calan (1 Ionawr). Bydd canolfannau ar agor fel arfer ar adegau eraill, gwiriwch ar-lein am fanylion llawn yr amseroedd agor arferol.

"Mae'n criwiau ni wastad yn gweithio mor galed, yn enwedig dan yr amgylchiadau anodd diweddar a wynebodd y gwasanaeth yn sgil prinder staff." Eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar ran Powys Werdd. "Maen nhw'n aml yn gweithio oriau hir i geisio sicrhau bod rowndiau'n cael eu cwblhau, a bod y biniau'n cael eu gwagio.

"Gyda chasgliadau wedi'u trefnu drwy gydol cyfnod yr ŵyl, rydym yn annog cartrefi i wneud defnydd o'r gwasanaeth a lleihau, ailddefnyddio, ac ailgylchu cymaint o'u gwastraff cartref â phosibl.

"Rydyn ni i gyd yn cynhyrchu mwy o wastraff na'r arfer dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ond mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf ohono - ffoil, bwyd, jariau gwydr a photeli, coed Nadolig go iawn, cardiau Nadolig plaen a phapur lapio, batris, potiau plastig, a photeli."

Gwiriwch ein gwefan a chadw llygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r gwasanaeth oherwydd tywydd eithafol y gaeaf neu unrhyw amgylchiadau annisgwyl eraill.