Toglo gwelededd dewislen symudol

Cysylltiadau â band eang gwibgyswllt yn y flwyddyn newydd ar gyfer tri chynllun ym Mhowys

Members of the Llanafan Fawr and Llanwrthwl Community Broadband Scheme project group

13 Rhagfyr 2022

Members of the Llanafan Fawr and Llanwrthwl Community Broadband Scheme project group
Bydd  trigolion Powys sydd wedi ymuno â thri chynllun band eang cymunedol - Llanfan Fawr a Llanwrthwl, Aberedw a Glascwm, a Dwyriw a Manafon - yn cael eu gwibgysylltiadau ffibr yn y flwyddyn newydd.

Bydd y rhwydwaith newydd yn Llanafan Fawr a Llanwrthwl yn cyrraedd 353 eiddo, ac mae 170 o'r rhain eisoes wedi cofrestru i dderbyn y gwasanaeth gwell, yn dilyn buddsoddiad o dros £250,000.

Yn Aberedw a Glascwm y cynllun yw cyrraedd 240 eiddo, gyda 134 o'r rhain eisoes wedi'u cofrestru, yn dilyn buddsoddiad o dros £200,000.

Ac yn Nwyriw a Manafon bydd y rhwydwaith newydd yn cyrraedd 461 eiddo, gyda 173 eisoes wedi'u cofrestru, yn dilyn buddsoddiad o fwy na £200,000.

Ariannwyd y tri chynllun gan Gynllun Talebau Band Eang Gigabid Llywodraeth y DU a rhaglen atodol Llywodraeth Cymru (sydd wedi cau erbyn hyn) a byddant yn cael eu darparu gan y cyflenwr Broadway Partners.

Bydd Broadway Partners hefyd yn cynnig 18 prosiect cymunedol arall ym Mhowys, a allai arwain at 8,000 arall o dai mewn ardaloedd gwledig yn cael mynediad i fand eang gwibgyswllt ffibr. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau yn Rhaeadr Gwy a Nantmel, a Chastell-paen, a fydd y nesaf i elwa o'r cynllun.

Mae Cyngor Sir Powys (CSP) yn cefnogi'r cynlluniau fel rhan o'i brosiect Powys Ddigidol, sy'n ceisio helpu busnesau a chymunedau i gadw mewn cysylltiad.

"Ar ôl eu cwblhau, bydd y cynlluniau band eang cymunedol hyn, sy'n denu buddsoddiad o fwy na £650,000, yn sicrhau cysylltedd llawer gwell ar gyfer preswylwyr a busnesau yn rhai o rannau mwyaf gwledig ein sir," meddai'r Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet y cyngor dros Bowys Gysylltiedig. "Maen nhw hefyd yn ein helpu i gyflawni ein nod o greu Powys gryfach, tecach a gwyrddach.

"Bydd gwella mynediad digidol yn rhai o'n cymunedau mwyaf gwasgaredig eu poblogaeth yn eu gosod ar sail mwy cyfartal â'r rhai mewn ardaloedd trefol ac yn rhoi mynediad iddyn nhw at ystod ehangach o wasanaethau sy'n gallu helpu gyda lles, dysgu a gweithio o bell."

Mae'r holl gynlluniau band eang cymunedol sy'n cael eu cefnogi gan CSP wedi'u rhestru yma: Cynlluniau Band Eang Cymunedol

Os ydych eisiau cymorth i sefydlu cynllun band eang cymunedol eich hun ym Mhowys, neu i ymuno ag un sydd eisoes yn bodoli, cysylltwch â swyddog band eang cymunedol CSP, yn Nhîm Adfywio'r cyngor, yn: broadband@powys.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth am wella eich cysylltiad band eang, yn cynnwys grantiau a chymorth, ar gael yma hefyd: Band Eang - Galluogi Powys Ddigidol

Mae yna hefyd dudalennau Facebook ar gyfer y tri chynllun band eang cymunedol:

LLUN: Aelodau o grŵp prosiect Cynllun Band Eang Cymunedol Llanafan Fawr a Llanwrthwl (o'r chwith), Steve Ellis, Andrew Powell a David Price, gyda Reece Simmons (bawd i fyny), Rheolwr Cyswllt Cymunedol Broadway Partners, wrth osod y gyfnewidfa fach newydd (cabinet gwyrdd) ym Mhontnewydd-ar-Wy, a fydd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer y rhwydwaith ffibr newydd.