Toglo gwelededd dewislen symudol

Egwyl hirach i Ganolfannau Hamdden

Leisure facilities

14 Rhagfyr 2022

Leisure facilities
Bydd canolfannau hamdden ym Mhowys yn cael egwyl hirach dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, gyda rhai'n cau tan ddiwedd mis Mawrth er mwyn mynd i'r afael â chostau cynyddol ynni.

Cytunodd Cabinet Cyngor Sir Powys a'r cwmni hamdden nid-er-elw Freedom Leisure, ar hyn ddoe (dydd Mawrth) mewn ymateb i'r argyfwng costau byw a'r cynnydd trychinebus mewn costau ynni.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, y Cynghorydd David Selby: "Mae'r argyfwng ynni presennol yn cael effaith aruthrol ar ein gwasanaethau hamdden ac mae angen gweithredu yn y tymor byr i dorri costau a rhoi amser i ni gynnal adolygiad trwyadl o wasanaethau hamdden yn y sir.

"Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn, ond mae'n angenrheidiol i sicrhau hyfywedd tymor hir y gwasanaeth.  Rydym yn gobeithio'n fawr mai poen tymor byr fydd hwn er mwyn sicrhau dyfodol y gwasanaeth.  Byddai oedi neu eistedd ar ein dwylo'n peryglu dyfodol yr holl ddarpariaeth hamdden a gosod baich annerbyniol ar gyllideb y Cyngor.

"Trwy gau canolfannau dros dro, bydd yn rhoi cyfle i ni adolygu'r ddarpariaeth ac ymgynghori â chymunedau, y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth a thrigolion ar draws Powys i ddatblygu gwasanaeth cynaliadwy tymor hir i'r sir," ychwanegodd.

Meddai Prif Weithredwr Freedom Leisure, Ivan Horsfall: "A dweud y gwir mae'r sefyllfa'n dorcalonnus.  Gwasanaethau hamdden y sector cyhoeddus yw un o'r sectorau mwyaf bregus gan fod costau ynni yn ganran mor fawr o'n costau ni, yn enwedig gyda phyllau nofio.  Fel ymddiriedolaeth hamdden nid-er-elw,  rydym yn gweithredu heb fawr o arian dros ben ac yn syml iawn, ni allwn ymdopi â'r costau cynyddol hyn."

"Mae'r costau cynyddol hyn wedi arwain at heriau sylweddol i ni a'r cyngor a bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd a phoenus am wariant a sut allwn ni weithredu'n effeithiol yn yr hinsawdd sydd ohoni.

"Mae Freedom Leisure yn credu'n gryf mewn darparu gwasanaethau iechyd a lles o ansawdd i gymunedau lleol.  Nod ein rhaglenni ni yw helpu pobl i wella, i heneiddio'n actif, atal salwch corfforol, meddyliol a chymdeithasol, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd, gordewdra a helpu gyda chyflyrau iechyd tymor hir.

"Mae ein gwasanaethau ni'n dylanwadu ar benderfynyddion meddygol a chymdeithasol iechyd.  Fel ymddiriedolaeth nid-er-elw, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu gwasanaeth iechyd a lles sy'n fforddiadwy, hwylus a chynhwysol i gymunedau lleol, gan gynnwys dysgu sgiliau bywyd hanfodol i blant ac oedolion sy'n dysgu nofio.

"Mae'r gwasanaethau hanfodol hyn nawr yn y fantol.  Mae angen cymorth ystyrlon a thymor hir wrth Lywodraeth y DU nawr er mwyn sicrhau dyfodol y sector hamdden," ychwanegodd.

Manylion y penderfyniad

Pob canolfan hamdden i gau o ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr tan 2 Ionawr, 2022 (gan gynnwys y dyddiau hynny)

Cau canolfannau Llanfair Caereinion, Llanfyllin a Llanandras (i'r cyhoedd) o ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr 2022 tan 31 Mawrth 2023.  (pyllau nofio ar gau i'r cyhoedd ac ysgolion).

Cau pyllau nofio Llanidloes, Rhaeadr Gwy a Llanfair-ym-Muallt (i'r cyhoedd ac ysgolion) o ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr 2022 tan 31 Mawrth, 2023.