Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datganiad ynghylch adolygiad o wasanaethau hamdden

Leisure facilities

16 Rhagfyr 2022

Leisure facilities
Rydym wedi clywed a gwrando ar y farn a fynegwyd gan Aelodau a phobl Powys ers i'r Cabinet benderfynu yn gynharach yr wythnos hon i gau rhai o'n cyfleusterau hamdden rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Gwnaethpwyd y penderfyniad i geisio cyfarch yr heriau ariannol ychwanegol mae Freedom Leisure yn eu wynebu yn sgil y cynnydd sylweddol mewn costau ynni, sydd wedi eu cymlethu gan y penderfyniad i dynnu cyrff sector gyhoeddus o'r Cynllun Cymorth Ynni sydd ar gael ar draws y Deyrnas Unedig tan Fawrth 2023.

Ddydd Mercher derbyniom wybodaeth am yr arian fydd yn cael ei roi i'r Sir gan Lywodraeth Cymru'r flwyddyn nesaf. Mae'r setliad yn well na'r ddisgwyl. Yng sgil hyn, 'rydym wedi penderfynu peidio â gweithredu'r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar Rhagfyr 13eg i gau tri Canolfan Hamdden a thri pwll nofio dros dro rhwng Ionawr a Mawrth 2023.

Bydd hyn yn arwain at bwysau ychwanegol ar ein cyllideb eleni, a byddwn yn defnyddio peth o'r arian o setliad y flwyddyn nesaf i dalu'r costau ychwanegol. Gwneir hyn trwy dynnu ar Arian Wrth Gefn eleni ond eu hailgyflenwi'r flwyddyn nesaf o'r cynnydd mewn arian a geir gan Lywodraeth Cymru.

Mae angen buddsoddi mewn nifer o'r cyfleusterau hamdden ar draws y Sir oherwydd eu hoedran a'u cyflwr. Cyn i ni wario unrhyw gronfeydd cyfalaf sylweddol ar hyn, byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r cyfleusterau, a byddwn yn ymgysylltu'n llawn â chymunedau lleol, y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau a'n Cynghorwyr Sir, yn ogystal â gweithio'n agos gyda Freedom Leisure.

Er mwyn sicrhau ein bod yn neilltuo digon o amser ar gyfer yr adolygiad cynhwysfawr hwn, bydd yn dechrau'n gynnar yn y Flwyddyn Newydd a byddwn yn rhannu'r Cylch Gorchwyl gyda ein Pwyllgorau Sgriwtini. Bydd y Cabinet a Sgriwtini yn ystyried argymhellion yr adolygiad pan fyddent ar gael.

Mae rhywfaint o frys i gynnal yr adolygiad hwn er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau hamdden yn gynaliadwy yn y dyfodol, yn enwedig gan ein bod yn disgwyl toriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus o 2025 ymlaen.

Y Cynghorydd James Gibson-Watts, Arweinydd Cyngor Sir Powys

Y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach

Y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus

Y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol