Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dirwy ar gyfer preswylydd o Landrindod a ymosododd ar Swyddog Gorfodi Sifil

Image of a body camera

20 Rhagfyr 2022

Image of a body camera
Yn dilyn gwrandawiad yn Llys yr Ynadon Merthyr Tudful, cafwyd preswylydd o Landrindod yn euog o drosedd Adran 4 Trefn Gyhoeddus gan dderbyn dirwy sylweddol, ar ôl ymosod ar Swyddog Gorfodi Sifil Cyngor Sir Powys.

Ar ôl derbyn hysbysiad tâl cosb am drosedd barcio ar Stryd y Deml, Llandrindod ar y 30 Mehefin, gwthiodd y troseddwr yr hysbysiad yn dreisgar i frest y swyddog Gorfodi Sifil.

Cafodd y digwyddiad ei ddal ar y camera ar wisg y swyddog, a throsglwyddwyd y fideo ohono i'r heddlu a aeth â'r achos i'r llys yr wythnos ddiwethaf (14 Rhagfyr).

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar ran Powys Wyrddach: "Ni fydd trais nac ymddygiad sarhaus tuag at staff y cyngor byth yn cael ei oddef. Rydym yn gwerthfawrogi bod cael cosb parcio yn gallu bod yn rhwystredig, ond nid yw'n esgus o gwbl am gam-drin corfforol a geiriol o bobl eraill.

"Mae gan ein Swyddogion Gorfodi Dinesig swydd ddi-ddiolch, ond mae'n hanfodol sicrhau bod parcio, yn enwedig yng nghanol ein trefi prysur, yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau bod nifer dda o bobl yn gallu ymweld â'r stryd fawr.

"Rydym yn ddiolchgar i'r heddlu am fynd â'r achos hwn i'r llys a'r gobaith yw y bydd atgoffa eraill nad yw trais, o unrhyw fath, yn dderbyniol ac y bydd yn cael ei drin yn briodol."