Toglo gwelededd dewislen symudol

Lidl GB yn galw cynhyrchion brithyll ac eog wedi'u mygu yn ôl

Smoked salmon

23 Rhagfyr 2022

Smoked salmon
Mae trigolion Powys sy'n siopa yn Lidl yn cael eu hysbysu bod y gadwyn o archfarchnadoedd wedi galw cynhyrchion brithyll ac eog wedi'u mygu yn ôl oherwydd halogiad posibl gyda monocytogenes Listeria.

Mae'r cynhyrchion sydd wedi'u galw'n ôl fel a ganlyn:

  • Lidl Deluxe Oak Smoked Scottish Louch/ Loch Trout, 100g, yr holl ddyddiadau defnyddio olaf rhwng ac yn cynnwys 20 Rhagfyr 2022 a 6 Ionawr 2023
  • Lidl Lighthouse Bay Smoked Trout Trimmings, 120g, yr holl ddyddiadau defnyddio olaf rhwng ac yn cynnwys 20 Rhagfyr 2022 a 6 Ionawr 2023
  • Lidl Deluxe Mild & Delicate Smoked Scottish Salmon, 100g, dyddiad defnyddio olaf 11 Ionawr 2023
  • Lidl Deluxe Smoked Scottish Salmon with Ben Bracken Whisky, 100g, dyddiad defnyddio olaf 11 Ionawr 2023
  • Lidl Lighthouse Bay Smoked Scottish Salmon Trimmings, 120g, dyddiad defnyddio olaf 31 Rhagfyr 2022

Ni wyddys am unrhyw gynhyrchion Lidl GB eraill sydd wedi'u heffeithio.

Gall symptomau a achosir gan Listeria monocytogenes fod yn debyg i'r ffliw gan gynnwys tymheredd uchel, poenau yn y cyhyrrau, teimlo'n oer, chwydu neu'n teimlo fel chwydu a dolur rhydd.  Fodd bynnag, mewn achosion prin, gall yr haint fod yn fwy difrifol, gan achosi cymhlethdodau difrifol, fel llid yr ymennydd.

Mae rhai pobl yn fwy agored i heintiau listeria, gan gynnwys rhai dros 65 oed, menywod beichiog a'u babanod yn y groth, babanod llai na mis oed a phobl sydd â systemau imiwnedd gwan.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi hysbysu Cyngor Sir Powys o'r cynhyrchion sydd wedi cael eu galw yn ôl.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori defnyddwyr sydd wedi prynu unrhyw un o'r cynhyrchion pysgod wedi'u mygu a rhestrir uchod i beidio â'u bwyta, a'u dychwelyd i'r siop lle gallant gael ad-daliad llawn. Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu bryderon at Wasanaethau Cwsmer Lidl ar 0800 977 7766 neu customer.services@lidl.co.uk