Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ydych chi'n bwriadu dychwelyd i waith cymdeithasol?

A social worker

28 Rhagfyr 2022

A social worker
Mae Gwasanaethau Oedolion Powys yn cefnogi pobl i fyw'r bywyd gorau y gallant drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig.  Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phobl i'w helpu i ddod o hyd i'r atebion sy'n iawn iddyn nhw.

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio ar gyfer sawl rôl gwaith cymdeithasol ar draws ein timau cymunedol, ysbytai ac iechyd meddwl.  Rydyn ni'n talu costau cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer ein holl rolau, ynghyd â chyflogau cystadleuol, a llawer o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a dilyniant gyrfa.

Byddem yn croesawu diddordeb gan unrhyw un sydd wedi gadael y sector gwasanaethau cymdeithasol yn ddiweddar, neu sydd wedi ymddeol ac sy'n gobeithio symud yn ôl i rôl gwaith cymdeithasol.

Meddai Michael Gray, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Powys: "Mae Powys yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo.  Os ydych chi wedi gadael y sector yn ddiweddar ond eisiau dychwelyd i roi cefnogaeth i bobl i wneud yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym hefyd yn agored i rolau dros gyfnod penodol."

I gael rhagor o wybodaeth am fanteision a buddion gweithio o fewn Gwasanaethau Oedolion, dilynwch y ddolen hon: Gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion

Gellir gweld yr holl rolau sydd ar gael yma: Chwilio am swyddi ac ymgeisio amdanynt

I drafod rolau tymor penodol ar draws ein gwasanaethau, cysylltwch â Michelle Griffiths, Partner Busnes Adnoddau Dynol michelle.griffiths1@powys.gov.uk (dyddiau gwaith yw dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau)