Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Digwyddiadau recriwtio ar gyfer swyddi gofal preswyl

Young person on their phone

3 Ionawr 2023

Young person on their phone
Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am staff gofal i weithio mewn cartrefi preswyl i gefnogi plant a phobl ifanc.  

Beth am ddod i un o'r digwyddiadau recriwtio fydd yn cael eu cynnal ar draws y sir i ddysgu mwy am weithio mewn un o'n cartrefi preswyl.   

Bydd y digwyddiadau'n gyfle i'r sawl sydd â diddordeb yn y swyddi ddysgu mwy am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael ar hyn o bryd, ac i ofyn cwestiynau i'n tîm cyfeillgar.  Hefyd bydd ein staff ar gael i roi arweiniad ac i'ch helpu llenwi'r ffurflen gais.   

Byddwn yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal, boed hynny'n golygu ar gychwyn eich gyrfa, os oes gennych brofiad eisoes, neu os ydych chi'n chwilio am her newydd.   

Cynhelir y digwyddiadau yn y lleoliadau canlynol:  

  • Gwesty'r Royal Oak, Y Trallwng - dydd Mawrth 10 Ionawr, 11am - 1pm 
  • Y Neuadd Les, Ystradgynlais - dydd Mercher 11 Ionawr 11am - 1pm 
  • Y Gaer, Aberhonddu - dydd Gwener 13 Ionawr 11am - 1pm  

Trwy weithio gyda ni, byddwch yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc yn y maes arbenigol hwn o fewn gofal preswyl, ac yn cefnogi plant a phobl ifanc ym Mhowys.

Rydym yn cynnig buddion gwych i'n gweithwyr, gan gynnwys cyflogau rhagorol, ynghyd â hyfforddiant a chyfleoedd datblygu gwych. 

Mae cyfleoedd gwaith ar gyfer staff gofal cymwys, uwch aelodau staff gofal, yn ogystal ag unigolion sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, a'r sawl sydd am weithio tuag at gymwysterau FfCCh.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Sandra Davies: "Rydym wedi ymrwymo i wireddu'r canlyniadau gorau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd ym Mhowys, felly, os hoffech gael cyfle newydd, a gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, beth am ddod i gwrdd â ni i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael." 

I weld y swyddi gwag ar hyn o bryd, ewch i:https://cy.powys.gov.uk/swyddi