Cynnydd a wnaed ar brosiect Y Lanfa
4 Ionawr 2023
Mae'r Gronfa Ffyniant Bro gwerth £4.8 biliwn a gyhoeddwyd gan y Canghellor yng Nghyllideb yr Hydref 2021, yn buddsoddi mewn seilwaith i wella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth. O'r gronfa hon fe wnaeth sicrhaodd Powys bron i £14 miliwn ar gyfer y prosiect yma.
Mae gwella adeilad Y Lanfa, ei lanfa a'r bythynnod cysylltiedig rhestredig ar ochr y Gamlas yn rhan o'r prosiect cyffredinol. Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn darparu Gwasanaeth Llyfrgell y Trallwng, ynghyd ag Amgueddfa Powysland, o'r adeilad.
Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd ar ddarluniau'r cynllun a bydd manylion pellach yn dilyn wrth i'r prosiect ddatblygu. Bydd cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei gyflwyno ar gyfer y cynllun newydd yn y Flwyddyn Newydd.
Nod y rhan hon o'r prosiect yw gwella'r defnydd aml-swyddogaethol o'r Lanfa a cheisio creu gofod llawr addasadwy a fydd yn y pen draw yn gwella'r gwasanaethau cymunedol a diwylliannol sy'n cael eu cynnig yno.
Bydd ardal y lanfa o'i chwmpas yn cael ei ailfodelu i wella lleoliad ochr y gamlas gan greu ymdeimlad o le ac annog mwy o ddefnydd, tra bydd y bythynnod ar ochr y gamlas yn cael eu hadfer a'u cynnig ar gyfer defnydd masnachol/cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae hwn yn gyfle cyffrous nid yn unig i ddiogelu dyfodol adeilad pwysig ond hefyd i wella'r gwasanaeth ar gyfer y gymuned leol a thwristiaid fel ei gilydd."
Fel rhan o'r prosiect hwn, mae Miller Research yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein sy'n canolbwyntio ar ddeall anghenion gwahanol ddefnyddwyr y gamlas a'r ardal gyfagos, ac anghenion ymwelwyr â'r gamlas. I gael mynediad i'r arolwg o adeilad Y Lanfa, y bythynnod a'r cyffiniau, cliciwch ar y ddolen ganlynol: www.smartsurvey.co.uk/s/YLanfaCym/