Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ailgylchwch eich hen fatris ac eitemau trydanol

Image of a someone holding a battery

17 Ionawr 2023

Image of a someone holding a battery
Mae Cyngor Sir Powys yn annog trigolion i ailgylchu eu hen fatris ac eitemau trydanol yn hytrach na'u rhoi yn y bin.

Bob blwyddyn ar draws y DU mae 22,000 o dunelli o fatris yn cael eu taflu, gyda dim ond traean yn cael eu hailgylchu'n iawn - a'r gweddill yn gorffen yn y bin.

Mae'r hen fatris hyn sy'n cael eu taflu'n gallu bod yn beryglus.  Wrth eu casglu gyda gweddill y sbwriel neu ddeunydd ailgylchu, mae'n bosibl y byddant yn cael eu gwasgu, torri, malu neu'u gwlychu.  Os bydd hyn yn digwydd, yn aml iawn mae'r cemegau a chynnwys drwg arall yn gallu achosi niwed i'r amgylchedd, gyda rhai mathau o fatris yn gallu mynd yn boeth iawn neu hyd yn oed fynd ar dân.

Nid dim ond y batris cyffredin sydd angen eu hailgylchu'n iawn.  Mae batris i'w gweld mewn dyfeisiau electronig cludadwy megis gliniaduron, llechi, ffonau symudol, camerâu, offer pŵer, teganau a reolir o bell, drôns, sgŵters trydan a hyd yn oed e-sigarets.

"Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fydd llawer ohonom yn cael gwared ar bethau ac yn  gwaredu hen eitemau gyda rhai newydd a brynwyd adeg y Nadolig neu yn y seliau ym mis Ionawr." meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Ond mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n taflu unrhyw hen fatris ac offer sy'n defnyddio batris i'r sbwriel. Nid yn unig oherwydd y dylid ailgylchu'r eitemau hyn, ond am resymau diogelwch hefyd.

"Mae'n bosibl ailgylchu pethau megis batris ac eitemau trydanol eraill yn ddiogel yn y Canolfannau Ailgylchu.  Mae nifer o archfarchnadoedd, llyfrgelloedd ac ysgolion hefyd â mannau ailgylchu ar gyfer batris bach cyffredin.

"Dylech bob amser tynnu'r batris o nwyddau di-angen a'u hailgylchu ar wahân.  Trwy ailgylchu batris yn gyfrifol a pheidio eu taflu allan gyda'r sbwriel, gallwn nid yn unig gwella'n cyfraddau ailgylchu, ond sicrhau eu bod yn cyrraedd lle penodol sy'n arbenigo mewn ailgylchu batris."

Am fwy o wybodaeth ar beth y gallwch ac na allwch ei ailgylchu ym Mhowys, darllenwch y canllawiau ailgylchu ar-lein: A - Y o wastraff ac eitemau i'w hailgylchu