Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynllun Beicwyr Gwell am Ddim

Image of a motorbike and enhanced rider scheme logo

18 Ionawr 2023

Image of a motorbike and enhanced rider scheme logo
Estynnir gwahoddiad i fotorbeicwyr gofrestru ar gyfer Cynllun Beicwyr Gwell y DVSA sydd ar gael am ddim; nod y cynllun yw gwella sgiliau beicio a diogelwch ar ffyrdd Powys.

Trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnig y cwrs Beicwyr Gwell am ddim i unrhyw feiciwr sy'n byw ym Mhowys, neu sy'n defnyddio ffyrdd Powys.

Mae Cynllun Beicwyr Gwell yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn addas i unrhyw un sydd â thrwydded beic modur llawn, fyddai'n hoffi gwella eu sgiliau beicio, i'r sawl sy'n dychwelyd i feicio yn sgil seibiant, beicwyr sydd newydd basio eu prawf, pobl sy'n newid i feic modur mwy nerthol, a/neu'r sawl sydd am wirio eu safonau beicio.

Mae'r cwrs yn cynnwys sesiwn theori ar-lein gyda'r hwyr a hanner diwrnod ar y ffordd, ymarferol sy'n golygu mynd am reid ar y penwythnos gyda hyfforddwr cymwys. Does dim prawf, ond caiff sgiliau beicio eu hasesu, a rhoddir hyfforddiant priodol. Bydd beicwyr sy'n derbyn marciau 'gwyrdd' ar gyfer pob modiwl yn derbyn tystysgrif cymhwysedd y DVSA wrth gwblhau'r cwrs.

"Mae cadw ffyrdd Powys yn ddiogel yn hollbwysig" meddai'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Gwerthfawrogwn fod ein sir enfawr, helaeth, gyda'i rhwydwaith o ffyrdd bendigedig yn denu beicwyr modur o bob man. A dyna'r rheswm ein bod yn cynnig y cwrs yma i bob beiciwr sy'n byw ym Mhowys, ond hefyd i feicwyr sy'n defnyddio ffyrdd Powys.

"Mae twristiaeth yn hynod bwysig i'n heconomi lleol yn ein sir hardd a deniadol, a byddwn yn croesawu beicwyr gofalus i fwynhau'r golygfeydd bendigedig, ond mae'n rhaid inni gofio fod diogelwch ar y ffyrdd yn hanfodol bwysig.

"Mae Cyngor Sir Powys yn ffodus iawn i gael tîm o swyddogion diogelwch ar y ffyrdd profiadol, sy'n gweithio ar nifer fawr o gynlluniau a phrosiectau, gan gynnwys cynnig y cyrsiau hyn i feicwyr sy'n awyddus i wella eu sgiliau beicio."

Dyddiadau'r cwrs ar gyfer Gaeaf/Gwanwyn 2023:

Canolbarth Powys:

Theori ar-lein: 9 Chwefror
Teithiau ar y ffordd: 11 neu 12 Chwefror

Theori ar-lein: 9 Mawrth
Teithiau ar y ffordd: 11 neu 12 Mawrth

Theori ar-lein: 13 Ebrill
Teithiau ar y ffordd: 15 neu 16 Ebrill

De Powys:

Theori ar-lein: 2 Chwefror
Teithiau ar y ffordd: 4 neu 5 Chwefror

Theori ar-lein: 2 Mawrth
Teithiau ar y ffordd: 4 neu 5 Mawrth

Theori ar-lein: 30 Mawrth
Teithiau ar y ffordd: 1 neu 2 Ebrill

Mae niferoedd y lleoedd ar y cyrsiau rhad ac am ddim hyn yn gyfyngedig ac yn llenwi'n gyflym. Cysylltwch â ni i gadw eich lleoedd cyn gynted â phosibl: 01597 826924 or miranda.capecchi1@powys.gov.uk

Gwelwch y fideo hwn i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Hyfforddiant Uwch y DVSA i Yrwyr Beiciau Modur: https://youtu.be/9OjLHO-ASmk