Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymeradwyo cynnydd is na chwyddiant yn rhent y cyngor

Image of a house

23 Ionawr 2023

Image of a house
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi y bydd adeiladu cartrefi newydd y cyngor tra'n parhau i gynnal y stoc dai presennol yn cael ei gefnogi gan gynnydd rhent sy'n is na chwyddiant.

Wythnos diwethaf (dydd Mawrth, 17 Ionawr) mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i gynyddu rhent tai y cyngor o 5.36%, sy'n cyfateb i £5.16 yr wythnos ar gyfartaledd.

Mae'r cynnydd yn angenrheidiol i ariannu'r gwasanaeth yn ogystal â chaniatáu i'r cyngor barhau â'i gynlluniau buddsoddi cynnal a chadw ar gyfer y 5,500 o gartrefi cyngor presennol a chefnogi rhaglen gynyddol ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd.

Bydd y cynnydd yn y rhent yn dechrau o fis Ebrill 2023.

Meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Bydd ein rhaglen o adeiladu cartrefi cyngor newydd sy'n tyfu a'n cynlluniau buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw ar gyfer ein cartrefi cyngor presennol yn ein helpu i adeiladu Powys cryfach, tecach, gwyrddach.

"Bydd y cynnydd rhent hwn sy'n is na chwyddiant yn sicrhau y gallwn fuddsoddi yn ein stoc dai tra'n cynyddu nifer y tai cyngor yn ein cymunedau drwy adeiladu cartrefi cyngor o ansawdd uchel.

"Hoffai'r cyngor hefyd gydnabod y Panel Craffu i Denantiaid, a ymgynghorwyd â hwy ar y cynigion ac a wnaeth gyfraniad gwerthfawr at y broses o wneud penderfyniadau.

"Mae rhent y cyngor ym Mhowys yn parhau ymhlith yr isaf o unrhyw landlord sy'n gweithio yn y sir ond eto'n cynnig y diogelwch mwyaf i denantiaid."

Fe wnaeth y Cabinet hefyd gymeradwyo taliadau newydd am wasanaethau fel cynnal a chadw tiroedd, glanhau cymunedol, gwresogi, leiniau sychu dillad, erial teledu, gwaith trin carthffosiaeth a gwaith diogelwch tân.

Bydd rhent garejis y cyngor hefyd yn cynyddu o 84c yr wythnos.